Diolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd

Hanesion gweithwyr lleol y Gwasanaeth Iechyd yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Dafydd Williams

Dafydd Williams

Yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc cafwyd hanesion gweithwyr lleol y Gwasnaeth Iechyd o dan yr amgychiadau presennol.

Mae Dafydd Williams o Gwmann wedi bod yn gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans yn Llambed ers 1985.

Lois Thomas

“Mae pethe wedi newid yn aruthrol ers i’r argyfwng Covid19 yma ddechre.” meddai Dafydd.  “Y peth cynta rydyn ni’n wneud nawr ar ddechre y shifft yw edrych a oes unrhyw beth wedi newid ers y shifft ddiwetha, achos mae pethe yn newid mor gyflym er enghraifft cael rhifau ffôn newydd i gysylltu a llinellau cyswllt gydag ysbytai gwahanol neu broses newydd o fynd â chleifion i mewn i’r ysbytai.”

Mae’n gyfnod heriol i bawb ac mae’r ansicrwydd yn poeni Dafydd, “Un o’r pethau gwaethaf am y Cofid yma yw nad oes neb yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd nesa. Ydy pethe’n mynd i waethygu cyn dod yn well? Ydy’r Cofid yn mynd i ddychwelyd eto yn hwyrach yn y flwyddyn? A ydy brechiad yn mynd i wella’r haint? Mae gweithio ar yr ambiwlans yn anodd iawn ar hyn o bryd.”

Yn wahanol i Dafydd, mae Lois Thomas o Lanllwni ond wedi bod yn nyrsio ers 8 mis.  Mae’n gweithio ar Ward Teifi, Ysbyty Glangwili yn ystod y dydd. Mae’n cynnwys 12 o welyau i gleifion sydd yn dangos symptomau o COVID-19.

“Rydw i ran amlaf yn gweithio diwrnodau hir yn ystod yr wythnos – rhwng 3 i 5 diwrnod.” meddai Lois.  “Mae’r cyfnod hwn yn anodd iawn i bawb ond y neges wrtha i a phawb sydd yn gweithio i’r gwasanaeth iechyd yw – arhoswch gartref a byddwch yn saff.”

Anwen Butten

Nyrs arbenigol ac yn gofalu ar ôl cleifion sydd wedi cael diagnosis o gancr y pen ar gwddwg yw Anwen Butten o Gellan.  Ond mae ei gwaith wedi newid yn ofnadwy yn ddiweddar.

“Rwyf wedi gorfod rhoi llawer o ganllawiau gyda’i gilydd” meddai Anwen “i drio gwneud yn siŵr fy mod i a fy nghyd weithwyr a’r cleifion yn cadw’n saff.”

“Fel arfer roeddwn yn mynd o amgylch Hywel Dda yn gwneud clinics gwahanol. Ro’n i’n mynd i Ysbyty Llwynhelyg, Tywysog Phillip, Bronglais a Glangwili. Ond ers rhai wythnosau bellach rydym yn ffonio pobol a hefyd yn gwneud galwadau fideo fel ein bod ni’n gallu gweld cleifion wyneb yn wyneb ar sgrin yn hytrach na dod â nhw i mewn i’r ysbyty. ”

Mae Meinir Jones o Gwmann, sy’n Uwch Nyrs yn Ysbyty Glangwili yn arfer cymryd gwyliau ym mis Mawrth i helpu ar y fferm, ond eleni roedd pethau’n wahanol. “cafwyd galwad frys gyda’r gwaith gan ddweud ei bod hi’n hanfodol fy mod yn cael hyfforddiant pellach yn yr Uned Gofal Dwys.”

Meinir Jones

Mae unrhyw ofidiau proffesiynol yn ymestyn i’r cartref yn y proffesiwn hwn.  “Dw i’n gofidio fy mod yn cario’r feirws gartref i’r teulu. Yn ddyddiol rwy’n edrych ar ôl cleifion gyda’r feirws. O ganlyniad, rwy’n golchi fy nwylo nes bod fy nwylo yn goch ac yn sych, cael cawod yn syth ar ôl dod adref o’r gwaith a golchi fy nillad ar radd 60 ac ar wahân i ddillad y teulu. Er fy mod yn ofalus, ni allaf fod gant y cant yn hyderus fy mod yn cadw’r teulu’n ddiogel.”

Ychwanega Meinir “Mae’r broses ddiogelwch wedi achosi sioc, straen a gofid ychwanegol i ran fwyaf o’r cleifion. Mae’r cleifion yn gweld y gweithwyr i gyd yn yr ysbyty yn gwisgo mwgwd, menig a ffedog blastig a dyw hyn ddim yn helpu’r sefyllfa ac o ganlyniad yn achosi pryder. Mae’r broses o gyfathrebu nawr yn straen i’r staff a’r cleifion. Faint ohonon ni sy’n cyfathrebu fel arfer trwy edrych ar wefusau’n gilydd yn symud ac edrych ar ein ‘facial expression’? Wel nawr rydyn ni’n cyfathrebu trwy ein llygaid a chadw pellter gymaint â phosib.”

Arwyr, heb os nag oni bai.  Maent yn gwneud gwaith holl bwysig, a diolch i’r pedwar am ysgrifennu am eu profiadau diweddar ar gyfer Papur Bro Clonc.  Gallwch ddarllen y darnau’n llawn yn rhifyn Mehefin sydd ar gael nawr ar wefan Clonc.