Diwrnod ardderchog o fasnachu ym Mart Llanybydder

Does dim angen mynd yn bell i werthu gwartheg a chael pris uchel.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd 620 o dda stôr o ffermydd lleol ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn.  Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf a’r cyfan yn gwerthu am brisau da.

Gwerthwyd y ddau eidon gorau gan Bowen, Pwllglas, Llanllwni am £1,470 yr un a’r anner orau am £1,440 o eiddo Jones, Awel y Grug, Llanarth.  Gwerthwyd y fuwch orau am £1,180 o eiddo Jones, Pencraig-peris, Llanrhystud a’r tarw gorau am £1,200 o eiddo Rees, Penlan Noeth, Gorsgoch.  Y pris gorau wedyn am fuwch a llo oedd £1,420 o eiddo Davies a’i feibion, Waunllannau, Ffynnonddrain.

Dywedodd Dai Davies yr arwerthwr “Hoffem ganmol y ffermwyr a diolch iddynt am sioe dda o dda stôr.  Dengys y mart yn Llanybydder nad oes angen mynd yn bell i werthu gwartheg a chael pris uchel.”

Dymuna Evans Bros ddiolch i’r prynwyr a’r gwerthwyr am eu cefnogaeth.

Cynhelir y Ffair Santesau nesaf mewn pythefnos ar y 24ain Hydref.  Mae bron i ddau gant wedi cofrestru’n barod a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.