Diwrnod VJ a’r Red Arrows yn hedfan dros Lanybydder

Nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan yn lleol ac yn genedlaethol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

www.raf.mod.uk

Bydd y Red Arrows yn hedfan dros ardal Llanybydder heddiw wrth i’r Deyrnas Unedig nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VJ.

Mae Diwrnod VJ – neu Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Japan – yn cael ei goffáu’n flynyddol ar 15fed Awst ac yn nodi’r diwrnod yr ildiodd Japan, gan ddod â’r Ail Ryfel Byd i ben.

Bydd y Red Arrows yn pasio dros Gymru fel rhan o hediad ledled y Deyrnas Unedig a theyrnged i ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Tîm Aerobatig adnabyddus y Llu Awyr Brenhinol yw’r Red Arrows a leolir yn RAF Scampton.

Disgwylir i’r jetiau fynd dros Borthdinllaen a Phwllheli ar Benrhyn Llŷn tua 2.21yp, cyn tanio dros Dywyn tua 2.25yp.

Yna byddant yn mynd dros Fae Ceredigion yn agos at yr arfordir cyn croesi i’r tir mawr yn Llanrhystud a dilyn llinell syth dros Dalsarn i Lanwnnen a thros Lyn Pencarreg tuag at Lidiad-Nenog cyn troi i gyfeiriad Llandeilo.  Dylent fod yn weladwy o Lanybydder tua 2.31yp.

Yna gan hedfan dros ardaloedd Pontardawe, Bannau Brycheiniog a Merthyr Tudful, byddant yn anelu i gyrraedd Caerdydd am 2.43yp fel rhan o’u taith o amgylch y Deyrnas Unedig.

Amcangyfrifon yw’r amserau a’r llwybrau hyn oherwydd gall bethau fel y tywydd effeithio arnynt.  Disgwylir i’r tywydd fod yn gymylog gyda phosibilrwydd o law, ond dylai’r Red Arrows fod yn weladwy i wylwyr ar hyd y llwybr.

Mae hediad o’r fath ledled y Deyrnas Unedig yn brin – dyma’r tro cyntaf i’r Red Arrows wneud hyn ers gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Yng Nghwmann, cynhelir dwy funud o dawelwch am 11yb wrth Gofeb Ryfel y Plwyf a gosodir torch er cof am David Daniel Evans, Glyn, Cwmann ac am y lleill a fu farw mor bell o gartref.  Bu David Daniel Evans yn garcharor rhyfel gyda’r Japaneaid.  Bu farw yng Ngwersyll Osaka ar yr 22ain Mawrth 1944 yn 25 mlwydd oed.  Claddwyd ef ym Mynwent Rhyfel Yokohama, Japan.

1 sylw

Dylan Lewis
Dylan Lewis

‪Wedi canslo yn anffodus.‬

Mae’r sylwadau wedi cau.