Dros 150 yn cystadlu mewn Eisteddfod ar-lein

Bydd 153 o gystadleuwyr yn cystadlu yn Eisteddfod Capel y Groes eleni.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bydd 153 o gystadleuwyr yn cystadlu yn Eisteddfod Capel y Groes eleni, a phob un dan 12 oed.

Roedd disgwyl i’r eisteddfod arferol gael ei chynnal ar Ebrill 15 ond o ganlyniad i’r coronafeirws, fe benderfynodd y trefnwyr i fynd â’r digwyddiad ar-lein yn hytrach na’i gohirio.

Eglurodd Luned Mair, un o’r trefnwyr, wrth golwg360 mai grwpiau Facebook fel ‘Côr-ona’ ysbrydolodd eisteddfod leol Capel y Groes i fynd yn ar-lein eleni.

O Fôn i Fynwy

O fynd ar-lein, fe fydd yr eisteddfod fach leol sydd eisoes yn denu cystadleuwyr o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn mynd yn genedlaethol am y tro cyntaf.

Yn ôl Luned Mair mae’r niferoedd sy’n cystadlu yn Eisteddfod Capel y Groes yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond, ar ôl i nifer o Eisteddfodau gael ei gohirio, mae’n amlwg fod yna fwy na’r arfer wedi dewis cystadlu yn yr eisteddfod eleni.

“Mae pobol yn teithio o beth pellter i gystadlu beth bynnag, ond ry’n ni wedi cael pobol yn cystadlu o bob cwr o Gymru eleni – plant o Geredigion, Sir Gar a hyd yn oed o Sir Fôn.

“Mae’n braf gweld amrywiaeth o blant yn cystadlu na fyddai efallai yn mynd o steddfod i steddfod fel arfer, ac efallai bydd cyfle i roi hyder i rai o’r plant yma i gystadlu yn y dyfodol.”

Parhau i dyfu

Gan ddefnyddio we mae Luned Mair yn gobeithio gall yr eisteddfod leol barhau i dyfu ac ehangu dros y blynyddoedd i ddod.

“Mae’n gyfle i bobol ddod i wybod am y steddfod leol.

“A falle, os bydd whant dod i gystadlu yn y blynyddoedd nesa’, bydd e’n beth braf bo’ ni wedi gallu rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i’r steddfod fel ’ny.”

Beth yw’r drefn eleni?

Mae’r trefnwyr wedi rhannu’r cystadlaethau i gategorïau gwahanol. Dyma nhw gyfa’r niferoedd fydd yn cystadlu:

  • Llefaru (wedi ei rannu i 4 categori): 62
  • Unawd (wedi ei rannu i 4 categori): 48
  • Celf (wedi ei rannu i 2 gategori): 20
  • Llen (wedi ei rannu i 2 gategori): 23

Oherwydd y trefniadau newydd roedd rhaid i gystadleuwyr yrru fideo ohonyn nhw yn canu neu yn adrodd at Eisteddfod Capel y Groes dros y we.

Bydd yr holl fideos yn cael eu dangos ar wefannau cymdeithasol yr Eisteddfod, a’r tri buddugol yn ymddangos ar sianel YouTube Clonc360.

Enfys Hatcher Davies ac Elin Haf Jones yw’r beirniaid eleni, a byddan nhw’n rhoi tystysgrif i’r tri buddugol ym mhob categori.

Mae manylion llawn yr holl gystadlaethau ar dudalen Facebook Eisteddfod Capel y Groes a’r dudalen Twitter: @CapelyGroes.