Dyddiaduron diddorol Getta Lewis ym Mhapur Bro Clonc

Rhannu uchafbwyntiau hen ddyddiaduron.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Getta Lewis

Ydych chi’n cadw dyddiadur?  Ydych chi’n cofnodi digwyddiadau hanesyddol?  Wel dyna a wnaeth Getta Lewis dros y blynyddoedd a chafwyd blas o hynny yn rhifyn Mai Papur Bro Clonc.

Yn dilyn cais ar-lein i unrhyw un a oedd â hanesion dyddiaduron, a fyddai yn addas i’w cyhoeddi yn CLONC, fe wnaeth Mari Dalis o Langrannog ddanfon hanes ei mamgu sef Getta Lewis o Aberaeron. Roedd hi hefyd yn famgu i Mary Davies, Maesglas.

Gan nad oes digwyddiadau cymunedol ar hyn o bryd, mae llai o adroddiadau i’w cynnwys yn y papur bro, felly apelir am ddeunyddiau eraill fel hen ddyddiaduron, portreadau neu hanesion lleol.

Dyma gofnod o beth fu Mari Dalis-Davies yn siarad amdano yn Urdd y Benywod Capel Cribyn nôl ym mis Tachwedd 2004, sef ddyddiaduron ei mamgu. Daeth o hyd iddyn nhw yn ddiweddar tra’n clirio dror yn ystod y Cloi Mawr.

Mehefin 1940, Bombs ar Abertawe am y tro cyntaf.

Hydref 25ain 1943, Mr Lloyd George wedi priodi yr ail waith.

Hydref 22ain 1945, Y Parch Jacob Davies wedi cael ei sefydlu yn Aberdar.

Mai 24ain 1965, Mynd i Eisteddfod yr Urdd yn Aberystwyth. Yr oedd y Tywysog yn siarad yn Gymraeg yno o’r llwyfan ac mi gafodd groeso ond buodd peth cynnwrf a dangos baneri.

Ionawr 23ain 1970, Syr Ifan ab Owen Edwards wedi marw, dyn mawr yr Urdd.

Ceir dwy dudalen lawn o gofnodion diddorol fel hyn a mwy, felly cofiwch lawrlwytho copi digidol o’r papur bro am ddim o wefan Clonc.

Er gwybodaeth, mae Mary Davies, Maesglas yn parhau i ddilyn traddodiad y teulu wrth ysgrifennu dyddiadur. Mae Mary wrthi yn ysgrifennu yn ei 42 dyddiadur erbyn hyn ac fe fu mam Mary hefyd yn llenwi dyddiadur am 55 o flynyddoedd cyn iddi hi farw yn 2010.

Os oes gan rywun arall hen ddyddiaduron diddorol i’w rhannu, cofiwch gysylltu, er mwyn eu cyhoeddi ym Mhapur Bro Clonc.