Llongyfarchiadau i Twm Ebbsworth o Lanwnnen am ennill Coron Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth a gynhaliwyd dros y penwythnos.
Mae Twm yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth a dyma ei goron ryng-golegol gyntaf, er iddo ennill nifer o wobrau llenyddol yn yr ysgol, Eisteddfod Llanbed a gyda’r Ffermwyr Ifanc yn y gorffennol.
Gwnaethpwyd y Goron a’r Gadair eleni gan Alec Page, y gof o Lanbed a braf gweld y goron hardd yn dychwelyd i’r ardal.
Beirniad y goron eleni oedd Eurig Salisbury a rhaid oedd ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith heb fod dros 5,000 o eiriau ar y testun ‘Cau’. Ysgrifennodd Twm gyfuniad o stori fer, canllaw, a chyfres o ebyst er mwyn adrodd un naratif.
Enillydd y gadair oedd Llio Heledd Owen o Abertawe sy’n fyfyrwraig yn Aberystwyth hefyd ond ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Seicoleg.
Ar ddiwedd y dydd, aeth y darian am y mwyaf o farciau yn yr eisteddfod i fyfyrwyr Bangor.