Moc yn edrych ’mlan i ‘lunio’r bennod nesaf’ yn hanes Neuadd Pantycelyn

“Mae heddiw yn ddechrau cyffrous i’r bennod honno yn hanes Pantycelyn”, meddai Llywydd newydd UMCA

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Prifysgol Aberystwyth

Mae Moc Lewis o Gwmann, Llywydd newydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, yn edrych ’mlan i “lunio’r bennod nesaf” yn hanes Neuadd Pantycelyn.

Ar ôl buddsoddiad o £16.5m mae “neuadd breswyl enwocaf Cymru” yn ailagor ei drysau i fyfyrwyr am y tro cyntaf ers 2015.

Yn ogystal â chynnig llety en-suite newydd sbon ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr mae’r neuadd hefyd yn gartref i UMCA, tîmau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol Y Geltaidd, ac Aelwyd Pantycelyn.

“Mae ailagor Pantycelyn yn gam pwysig iawn i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’r cyfleusterau yn y neuadd newydd yn wych”, meddai Moc Lewis.

“Fel llais y myfyrwyr, mae’n bwysig i ni fod swyddfa UMCA yma yn y Neuadd fel ein bod yn rhan o’i bywyd dyddiol ac yn cefnogi’r gymuned bwysig hon.

“Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad anhygoel y Neuadd dros y degawdau; ein tro ni yw hi nawr i lunio’r bennod nesaf, ac mae heddiw yn ddechrau cyffrous i’r bennod honno yn hanes Pantycelyn.”

Pantycelyn

‘Adeilad eiconig’

Yn ogystal â buddsoddiad gan y Brifysgol ei hun, derbyniodd y prosiect £5m gan raglen Addysg ac Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Wrth agor y Neuadd yn swyddogol dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod hi’n edrych ymlaen at weld y neuadd yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg am flynyddoedd lawer i ddod

“Mae Pantycelyn, a chymuned ehangach Aberystwyth, yn bwysig wrth feithrin y defnydd o’r Gymraeg”, meddai.

Cefndir

Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 fel neuadd i fechgyn, a daeth yn Neuadd Gymraeg yn 1974.

Fe fu’r neuadd yn gartref i’r hanesydd blaenllaw ac awdur Hanes Cymru, y diweddar Dr John Davies, a fu’n warden yno rhwng 1974 a 1992.

Yn wreiddiol, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth ei bod yn bwriadu cau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr Cymraeg i lety newydd Fferm Penglais.

Fe fu protestio mawr gan UMCA a Chymdeithas yr Iaith am hynny, ac arweiniodd hyn at dro pedol.