Dere i’r briodas – neges Emyr i’r dyn yr oedd wedi’i achub

“Roedd gweld y gwahaniaeth o’n i wedi cael ar ei fywyd ef a’i deulu yn anhygoel”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Emyr Williams a Milton Becker – Llun Teulu

Mae Emyr Williams yn gobeithio y bydd gwestai arbennig ym mhriodas ei fab ym mhen y flwyddyn.

Mae’n bwriadu gwahodd Milton Becker o Ganada – dyn sy’n diolch i Emyr am achub ei fywyd.

Mae stori’r cyn saer yn rhoi mêr esgyrn i achub bywyd dyn arall wedi cael llawer o sylw, ac mae Emyr Williams eisoes wedi bod draw yng Nghanada ar ymweliad.

Nawr mae yntau’n gobeithio croesawu Milton Becker i Gymru ac fe fyddai priodas ei fab, meddai, yn achlysur perffaith.

Er eu bod nhw’n byw fwy na  6,000 o filltiroedd ar wahân, aberth y dyn o Lanbed a roddodd fywyd newydd i Milton Becker trwy ei helpu i guro dau fath o liwcemia.

Erbyn hyn mae’r ddau wedi dod yn dipyn o ffrindiau, ac yn cadw mewn cysylltiad cyson â’i gilydd.

A’r llynedd, fe gawson nhw gwrdd am y tro cynta’ yng Nghanada.

 

Y stori

“Dwi wedi bod yn rhoi gwaed ers blynyddoedd, ac yn 2010 gofynnon nhw i fi os o’n i’n fodlon rhoi bone marrow”, meddai Emyr Williams.

“Mi o’n i’n fodlon iawn i wneud, ac yn 2012 ffindo nhw match oedd 99.99%”.

Cafodd Emyr Williams driniaeth bôn gelloedd (stem cells) fis Ionawr 2013, ond heb yn wybod iddo ochr draw’r byd roedd Milton Becker ar y pryd mewn cyflwr difrifol iawn, a’i deulu yn paratoi ar gyfer y gwaetha.

“Ar ôl y driniaeth ges i alwad ffôn ar y ffordd adre o’r ysbyty yn dweud bod y stem cells ar eu ffordd i Heathrow, a dyna pryd glywes i gynta mai rhywun o Ganada oedd yn eu derbyn.”

Llun o Emyr Williams a Milton Becker gyda’u teuluoedd

Ymweld â Chanada

Y llynedd teithiodd Emyr Williams, ei wraig Rhian a’i ferch Elain i Ganada i gwrdd â Milton Becker a’i deulu.

Yn ogystal â theithio o amgylch yr ardal trefnwyd parti i groesawu’r teulu o Gymru, ac i ddiolch i Emyr Williams.

Er ei fod yn gwybod bod Milton Becker wedi dioddef o liwcemia, doedd Emyr Williams ddim wedi sylweddoli pa mor wael oedd ei sefyllfa nes siarad â’i deulu.

“Ma’ Milton yn Dad ac yn Dad-cu,” meddai Emyr Williams. “Roedd gweld y gwahaniaeth o’n i wedi cael ar ei fywyd ef a’i deulu yn anhygoel.”

“Mae’n anodd credu’r peth, ond bydde fe wedi marw oni bai am y stem cells”.

 

Emyr Williams a Millton Beeker ar cerdded yn Canada
Emyr Williams a Milton Becker yn cerdded yng Nghanada – Llun Teulu
Emyr Williams gyda’i ferch Elain a’i wraig Rhian yng Nghanada – Llun Teulu
Millton Beeker yn diolch i Emyr Williams - Llun Teulu
Milton Becker yn diolch i Emyr Williams – Llun Teulu

Ar ôl ei daith fythgofiadwy e i Ganada , dywedodd Emyr Williams wrth Golwg360 fod ei ffrind newydd wedi gwirioni â Chymru, ac mae’n awyddus iawn i’w wahodd draw i Gymru yn fuan.

“Er nad oes dim wedi ei drefnu eto, mae’r mab yn priodi ymhen blwyddyn, a byddai’n wych gallu croesawu Milton a’i deulu i Gymru,” meddai.

 

Emyr Williams yn ymweld â’r adran gwaed a mer esgyrn lle derbyniodd Milton Becker ei driniaeth – Llun Teulu

“Byswn i’n annog unrhyw un i roi gwaed”

Fe ddechreuodd stori anhygoel Emyr Williams drwy roi gwaed, ac mae’n awyddus iawn i annog eraill i wneud yr un peth.

“Byswn i’n annog unrhyw un i roi gwaed, mae’n hawdd; dyw e’n costio dim i chi, a gallech chi wir wneud gwahaniaeth i fywydau pobol.”

“Ma tri o blant da fi, a fi’n browd o ddweud bod y tri wedi cofrestru i roi gwaed.”

 

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am roi gwaed ewch i wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru

Cacen Gymraeg gan deulu Milton Becker i ddiolch i Emyr Williams – Llun Teulu

Ein arwr arbennig!

Yng ngwobrau Radio Ceredigion 2017 enillodd Emyr Williams y brif wobr ‘Arwr lleol’, a’r wobr ‘Tad y Flwyddyn’. Darllenwch y stori o archif Clonc360 gan ei ferch Ffion Williams isod:

Ein arwr arbennig!

Ffion Williams

Ar nos Wener 15fed o Fedi cynhaliodd Radio Ceredigion noson wobrwyo arwr lleol yng ngwesty’r …