Y prisau gorau i ffermwyr lleol yn y Ffair Santesau

Adroddiad am brisau’r farchnad ym Mart Llanybydder 24ain Hydref.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd 650 o dda stôr o ffermydd lleol yn Ffair Santesau Mart Llanybydder ddydd Sadwrn.  Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf a’r cyfan yn gwerthu am brisau da.

Cafwyd y prisau gorau i’r ddau gyntaf yn y cylch gwerthu o eiddo Thomas, Maesymeillion, Llanybydder. Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,490 yr un a’r anner orau am £1,470.  Gwerthwyd y fuwch hesb orau am £1,120 o eiddo Ryder, Tyngrug Ganol, Cwmsychpant.

Dywedodd Mark Evans yr arwerthwr “Hoffem ddiolch i’r ffermwyr i gyd am ein cefnogi heddiw a thrwy’r flwyddyn, a llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd am gynhyrchu stoc o safon uchel.  Gyda chwe chant a hanner o dda, mae ishe lot o brynwyr arnon ni a chwarae teg iddyn nhw, maen nhw gyda ni’n ffyddlon o un mis i’r llall.”

Cynhelir y Ffair Fartin nesaf mewn tair wythnos.  Mae llawer wedi cofrestru’n barod a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.