O Gaerdydd i Gaergybi? Na, o Bontsiân i Baris… ac yn ôl

Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân yn llwyddo i godi dros £7,000 ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd

Nid teithio o Gaerdydd i Gaergybi wnaeth Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân ar ddydd Llun y Pasg – fel y bwriadwyd yn wreiddiol – ond rhedeg i Baris ac yn ôl a chodi dros £7,000 ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.

Fe wnaeth dros 140 o aelodau a ffrindiau’r clwb gerdded, rhedeg, seiclo – ac hyd yn oed rhwyfo – gyfanswm o 1117.52 o filltiroedd rhwng 9yb a 5yh – gyda’r cyfan yn cael ei gyflawni o’u cartrefi a chan barchu canllawiau’r Llywodraeth ynghylch pellhau cymdeithasol.

Y targed gwreiddiol oedd teithio’r 218 o filltiroedd sydd rhwng Caerdydd a Chaergybi (trwy Bontsiân), ond chwalwyd y targed hwnnw wedi dim ond dwy awr a hanner oddi ar gychwyn yr her.

Bydd yr holl arian a godwyd ar y diwrnod yn mynd tuag at unedau gofal dwys Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

“Anhygoel!”

“Dw i’n falch iawn bod cymaint o bobol wedi ein cefnogi wrth gyflawni’r her a’n galluogi ni i fynd i Baris ac yn ôl gyda thua 87 milltir yn weddill. Anhygoel!” meddai Teleri Evans, Cadeirydd CFfI Pontsiân.

“Rydyn ni wedi gweld cymuned yn tynnu at ei gilydd i godi arian ar gyfer achos teilwng iawn.”

Bydd dal modd cyfrannu arian at y gronfa tan ddiwedd yr wythnos trwy ddilyn y linc hon.

FIDEO O UCHAFBWYNTIAU’R DIWRNOD:

JOG OFF CORONA!

Dim ond un gair sydd ar ôl i ddweud – DIOLCH??Cofiwch gyfrannu: https://www.justgiving.com/crowdfunding/teleri-evans?utm_term=89qyvNmqMCffi Ceredigion Ceredigion YfcCFfI Cymru Wales YFCNational Federation of Young Farmers' ClubsBBC Radio CymruHywel Dda Health CharitiesHywel Dda Health Board

Posted by CFfI Pontsian on Tuesday, 14 April 2020