Cynlluniau am archfarchnad arall yn Llanbed

Gwefan fusnes yn datgelu cynlluniau i sefydlu archfarchnad arall yn yr ardal.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae cadwyn archfarchnad Aldi eisiau adeiladu 36 siop arall ledled Cymru gan gynnwys un yn ardal Llanbed.

Ar hyn o bryd mae archfarchnad Co-op ar gyrion y dref ac archfarchnad Sainsbury’s yng nghanol Llanbed, a rhai blynyddoedd yn ôl gwrthwynebwyd cais cwmni Tesco i adeiladu archfarchnad newydd yn y dref.  Mae teimladau cymysg ymysg y bobl leol ynglyn â’r newyddion hyn.

Dywedodd y cwmni manwerthu o’r Almaen fod yr ehangu yng Nghymru yn rhan o’i strategaeth o gael 1,200 o siopau ledled y Deyrnas Unedig erbyn 2025. Ar hyn o bryd mae ganddynt 880 o siopau.

Ar gyfer ei ehangu yng Nghymru mae’n edrych i sicrhau safleoedd 1.5 erw i adeiladu siopau 20,000 troedfedd sgwâr, gyda 100 o leoedd parcio.

Ar hyn o bryd mae ganddynt fwy na 50 o siopau yng Nghymru, gyda chyfanswm gweithlu o ychydig dros 1,000 o bobl.

Maent yn targedau ardaloedd: Caernarfon; Pwllheli; Glannau Dyfrdwy; Treffynnon; Cyffordd Llandudno; Pandy; Llay; Wrecsam; Aberdâr; Aberystwyth; Rhydaman; Y Barri; Aberhonddu; Pen-y-bont ar Ogwr; Caldicot; Caerdydd; Aberteifi; Caerfyrddin; Cas-gwent; Y Bontfaen; Llanelli; Llantrisant; Mynwy; Y Mwmbwls; Castell-nedd; Casnewydd; Pontardawe; Pont-y-pŵl; Pontypridd; Port Talbot; Porthcawl; Dinbych-y-pysgod; Tonypandy; Treharris yn ogystal â Llanbed.

Dywedodd Ciaran Aldridge, Cyfarwyddwr Eiddo Cenedlaethol Aldi UK: “Mae Aldi yn tyfu’n gyflym ac rydym yn croesawu tua miliwn o gwsmeriaid newydd i’n siopau bob blwyddyn.”

“Ond mae yna gannoedd o drefi ledled y Deyrnas Unedig hefyd lle nad oes Aldi, sy’n golygu bod cannoedd ar filoedd o bobl nad ydyn nhw’n gallu cyrchu’r bwyd fforddiadwy o ansawdd uchel y mae ein cwsmeriaid yn ei garu.”

“Rydym yn barod i archwilio pob cyfle, gan gynnwys cynlluniau dan arweiniad datblygwr neu unedau manwerthu presennol.”

Aldi yw pumed siop archfarchnad fwyaf y Deyrnas Unedig gyda 34,000 o weithwyr ond a fydd presenoldeb y cwmni yn ardal Llanbed yn plesio?

Dywedodd Sarah Ward sy’n rhedeg siop ‘Y Stiwdio Brint’ ar y Stryd Fawr “Gallai fod yn werthfawr iawn o ran cynyddu a chadw ymwelwyr yn y dref, gan fod llawer o bobl yn nalgylch Llanbed yn teithio 30 milltir i Gaerfyrddin, Aberteifi neu Aberystwyth i siopa mewn archfarchnadoedd rhad. Byddem yn eu cadw’n lleol yn lle hynny.”

Ond mae’n dibynnu hefyd ar leoliad yr archfarchnad newydd.  Gofynnodd Euros Jones “Os ydy cwsmeriaid yn mynd i Aldi a fydden nhw’n trafferthu dod i’r dre i siopa? Pam rhoi’r gorau i barcio am ddim yn Aldi ac yna dod i’r dref a thalu am barcio?”

Ychwanegodd Euros “Cyn i archfarchnadoedd Co-op a Sainsbury’s ddod yma, roedd dewis o leiaf 8 siop fwyd fach yma – digon o ddewis! Nawr maen nhw i gyd wedi mynd a’r cyfan sydd ar ôl gyda chi yw’r cwmnioedd mawr.”