Tri o Geredigion yn cyrraedd y brig

Roedd 19 wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Prif Ddramodydd Eisteddfod T eleni

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Nest Jenkins a ddaw yn wreiddiol o Ledrod yw Prif Ddramodydd Eisteddfod T eleni, yn ail mae Delyth Evans o Silian ac yn drydydd mae Sion Wyn Evans o Felinfach.

Roedd 19 wedi cystadlu eleni a datgelwyd mai Nest oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda’r beirniad, Hanna Jarman, a’r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno dros y we o’u cartrefi.

Creu monolog dim hirach na tri munud ar gyfer llwyfan neu sgrin oedd y dasg i gystadleuwyr rhwng 14-25 oed.

Beirniadaeth Hanna Jarman:

Y wobr gyntaf – ‘Babi’, Nest Jenkins, Aelwyd y Waun Ddyfal

Roedd Hanna Jarman wedi mwynhau’r elfen o fenyw gryf oedd yng ngwaith buddugol Nest Jenkins.

“Dwi’n ffan mawr o gymeriadau benywaidd ‘anhoffus’, menywod sy’n herio sut ma’ menyw fod i fihafio, siarad a theimlo.

Roedd y darn yn soffistigedig iawn. Cymeriad cryf a doniol.”

Yr ail wobr – ‘Bwdica’, Delyth Evans, Llanbedr Pont Steffan

Roedd canmol hefyd i ddarn Delyth Evans a oedd yn dilyn hanes dynes ifanc di gartref sydd yn cael bath am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd, a hynny ar ôl i’r llywodraeth drefnu lloches iddi yn ystod y pandemig.

Dywedodd Hanna Jarman fod “y stori yn glir, yn gyfredol ac yn procio’r cydwybod.

Roedd neges y monolog yn bwerus iawn, a’r delweddau o ddigartrefedd yn cael eu casglu fel plant coll yn effeithiol iawn.”

Yn drydydd – ‘Martha’, Sion Wyn Evans, Ysgol Gyfun Aberaeron

Roedd monolog Sion Wyn Evans yn trafod yr effaith mae gorfod taflu llaeth yng nghanol cyfnod covid-19 wedi ei gael ar ffermwyr yng Ngheredigion.

Yn ôl y beirniad roedd “iaith y cymeriad annisgwyl a gwreiddiol o Geredigion yn neidio o’r dudalen”.

Ychwanegodd Hanna Jarman fod strwythur a stori glir i’r darn a ddisgrifiwyd fel un “emosiynol a barddonol”.

 

Y foment pan glywodd Nest Jenkins mai hi yw Prif Ddramodydd Eisteddfod T ?

Prif Ddramodydd Eisteddfod T 2020

Y foment pan glywodd Nest Jenkins mai hi yw Prif Ddramodwr Eisteddfod T ?In case you missed it…the moment Nest Jenkins was named Eisteddfod T Winning Playwright!

Posted by Eisteddfod yr Urdd on Wednesday, 27 May 2020