#AtgofLlanbed – Gohebu drwy ffacs

Atgofion Janet Evans o gorau yn Eisteddfod Llanbed ac ysgrifennu adroddiadau i’r papurau.

gan Janet Evans

Côr Telyn Teilo.

Mae f’atgof cyntaf yn mynd nôl i’r flwyddyn 1976 yn canu mewn cyngerdd ar lwyfan y Babell fel aelod o Gôr Telyn Teilo dan arweiniad y cerddor dawnus Noel John. Yna symud fel teulu o Landeilo i Lambed wythnosau yn ddiweddarach.

Atgof arall yw buddugoliaeth wych Côr yr Urdd ar ddechrau’r wythdegau dan arweiniad Twynog yn y gystadleuaeth agored allan o 5 o gorau.

O ganol yr wythdegau hyd 2009 bum yn gweithredu fel Gohebydd y Wasg i’r Cambrian News heb anghofio Clonc wrth gwrs yn ystod y blynyddoedd diwethaf. ‘Roeddwn yn gyfrifol am baratoi adroddiad o’r Eisteddfod yn flynyddol yn cynnwys canlyniadau yr holl gystadlaethau a chasglu gwybodaeth am enillwyr y Prif Wobrau. Profiad arbennig oedd cyfweld rhai o fawrion y genedl.

Yn y cyfnod hwnnw yr oeddwn yn ysgrifennu’r holl ganlyniadau â llaw gan nad oeddwn yn medru teipio a dim son am ebost!! Codi tua 6 o’r gloch ar y dydd Mawrth i roi popeth at ei gilydd ac anfon yr adroddiad o swyddfa’r Cambrian News yn Llanbed trwy gyfrwng ffacs i gyrraedd Aberystwyth erbyn 9 y bore er mwyn ei gyhoeddi yn y papur y dydd Mercher canlynol. Ydy, mae’r atgofion yn dal mor fyw ag erioed.