Cynhaliwyd gwasanaeth dwyieithog cydenwadol ar Zoom nos Iau 3 Rhagfyr. Fe’i trefnwyd gan Cytun Llanbed i Ddathlu’r Adfent gyda chyfraniadau gan gynrychiolwyr nifer o eglwysi’r dref.
‘Roedd yr arlwy yn cynnwys darlleniadau yn olrhain hanes dyfodiad y Meseia yn Eseia, Luc, Mathew ac Ioan. Cafwyd gweddiau bendithiol, adroddwyd cerdd rymus Mererid Hopwood ‘Dim ond Un’ a rhanwyd atgofion am Lanbed a bywyd efaciwi yn yr Ail Ryfel Byd. Gwledd i’r glust oedd y perfformiadau cerddorol. Mwynhawyd datganiad organ ac unawdau cofiadwy gan Hilary Davies, Kees Huysmans a Darryl Walters.
Noson hyfryd i lenwi’r bwlch eleni gan nad oedd yn bosib cynnal noson ‘Carol, Cerdd a Chan’ er budd Cymorth Cristnogol. Mae honno’n rhan o ddathliadau Nadolig Llanbed ers dros deng mlynedd ar hugain. Gwahoddwyd pawb oedd yn bresennol i gyfrannu i’r elusen trwy dudalen ar eu gwefan. Estynnir yr un gwahoddiad i ddarllenwyr Clonc360 gyfrannu pe byddent yn dymuno.
Diolch yn fawr i bob un am eu cyfraniadau, i Bwyllgor Cytun Llanbed am drefnu ac i bawb ymunodd i ddathlu’r Adfent. Diolch yn arbennig i Densil Morgan, Marty Presdee Deborah Rowlands a Marc Rowlands.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd i bob un ar ran Cytun Llanbed.