Gwefan arbennig i gynnig cymorth i fusnesau Ceredigion

Cyngor Sir Ceredigion yn lansio gwefan arbennig gyda’r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio gwefan arbennig i sicrhau fod busnesau yng Ngheredigion a mynediad at y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf wrth baratoi ac ymateb i’r Coronafirws.

Gan fod pethau yn newid o ddydd i ddydd mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu’r dudalen hon er mwyn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

Yn gynharach wythnos yma roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cefnogi galwadau i’r Llywodraeth ystyried cymorth i unigolion hunangyflogedig, gan eu bod yn ffurfio cyfran sylweddol o weithlu Ceredigion.

Ers hynny mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi mesurau er mwyn gwarchod unigolion hunangyflogedig – dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bydd diweddariadau fel hyn nawr ar gael mewn un lle canolog i weithwyr a cyflogwyr.

Ymhlith y wybodaeth sydd gael ar y wefan mae gwybodaeth am ryddhad ardrethi busnes, cynllun cadw swyddi coronafeirws a’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw grantiau sydd ar gael i fusnesau.

Cliciwch yma i fynd i’r wefan gan Gyngor Sir Ceredigion