Gwefan newydd Grŵp Cefnogaeth Cymunedol Coronafeirws Llambed

Cyfle i ofyn am gymorth, cynnig helpu a chwilio gwybodaeth leol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bellach mae gan Grŵp Cefnogaeth Cymunedol Coronafeirws Llambed wefan.

Sefydlwyd y grŵp yn benodol fel y gellir darparu cefnogaeth gymunedol yn ystod wythnosau a misoedd yr hunan-ynysu. Boed yn siopa ar gyfer y rhai sy’n hunan-ynysu, galwad ffôn i rywun sy’n byw ar ei ben ei hun, casglu meddyginiaeth o fferyllfa, ffynonellau dibynadwy o wybodaeth Coronafeirws/Covid-19, neu hyd yn oed rannu syniadau / tiwtorialau ar gyfer pasio amser cwarantîn.

Sefydlwyd grŵp Facebook Cefnogaeth Cymunedol Coronafeirws Llambed yn wreiddiol gan y Cynghorydd Dinah Mulholland a Tina L Ruiz. Ond mae’r holl beth wedi tyfu ac mae ganddynt gefnogaeth y Cynghorydd Rob Phillips hefyd.

P’un a ydych chi’n meddwl y gallwch chi helpu, eisiau help, neu ddim ond yn chwilfrydig am yr hyn a allai fod ar gael, mae’r grŵp hwn yn ddefnyddiol iawn.

Mae llawer o fudiadau lleol yn darparu cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn a nifer o fusnesau a siopau ar agor ac yn darparu gwasanaethau pwysig. Gellir dod o hyd i bopeth erbyn hyn mewn un lle cyfleus.

Ar y wefan, gellir cofrestru i ofyn am help, cynnig gwirfoddoli, neu rannu gwybodaeth am eich busnes neu wasanaeth os ydych chi’n dal i fasnachu.

Mae gan y wefan adran gymunedol hefyd, lle gallwch chi anfon eich blogiau am eich amser wrth hunan-ynysu, lluniau o’r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud, ac ati.

Mae’r dudalen flaen yn dangos sleidiau o luniau enfys plant. Ychwanegir at hyn wrth fynd ymlaen, felly gallwch ddanfon eich delweddau ymlaen.

Y nod yw darparu cefnogaeth a gwybodaeth i drigolion Llambed yn ystod Argyfwng Coronafeirws. Cofresrwyd y wefan gyda Covid-19 Mutual Aid UK. Gellir cysylltu a’r grwp drwy ebost.