Gweinidog Iechyd: “Rhy gynnar” i ddweud os mai cynllun olrhain Ceredigion sy’n gyfrifol am ffigyrau isel y sir

44 o achosion sydd yng Ngheredigion – y nifer lleiaf o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Llun Golwg360

Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi dweud ei bod hi’n “rhy gynnar” i ddweud os mai cynllun olrhain cyswllt Cyngor Sir Ceredigion yw’r rheswm dros y nifer isel o achosion Covid-19 yn y sir.

Ceredigion yw’r sir sydd wedi gweld y nifer lleiaf o achosion o’r firws yng Nghymru gyda 44  o achosion yn unig.

Mi oedd system olrhain cyswllt a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Ceredigion mewn lle wythnosau cyn i Lywodraeth Cymru sefydlu cynllun olrhain cenedlaethol.

Er hyn roedd y Gweinidog Iechyd yn amharod i ddweud mai cynllun olrhain y sir oedd yn gyfrifol am y nifer isel o achosion heb “archwiliad manwl” i’r mater.

Eglurodd y Gweinidog Iechyd: “Fe wnaeth Ceredigion gynnal cynllun olrhain cyswllt, roeddent yn gallu gwneud hynny oherwydd ymrwymiad aelodau staff ac roedd ganddyn nhw nifer fach o achosion o’r coronafeirws – ac mae hynny’n beth da iawn i Geredigion.

“Ond, mae’n rhy gynnar i ddweud os mai’r system olrhain yn unig arweiniodd at y nifer isel o achosion yng Ngheredigion.”

“Pam na ddigwyddodd yr ymlediad cymunedol yn yr un niferoedd?

“Yr ateb onest yw dydyn ni ddim yn gwybod yr holl atebion i’r cwestiynau hynny eto,” meddai.

Mewn cyfweliad â Bro360 fis diwethaf eglurodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion mai’r cynllun olrhain oedd “yr unig ffordd i gadw’r niferoedd sydd yn dioddef o’r clefyd i lawr.

“Mae’n enghraifft o arbenigedd sydd wedi ei ddatblygu ar lawr gwlad, ac sy’n cael ei brofi yn yr ardal bellach.”

Cynllun olrhain cenedlaethol

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod cynlluniau olrhain yn hanfodol i ddarganfod lle mae’r feirws yn y gymuned.

“Yn wahanol i fis Ionawr a Chwefror mae gennym ni nawr y raddfa a’r gallu sydd ei angen arnom i redeg y system olrhain genedlaethol.

“Mae hawdd i edrych yn ôl a dweud be fyddem ni wedi gallu gwneud yn wahanol – y gwirionedd yw bod rhaid i chi wneud y penderfyniadau ar y pryd yn ddibynnol ar yr adnoddau sydd gennych a’r cyngor sydd gennych ar yr adeg yna.”