Gwerthwr tai wedi gwerthu rhwng 90 a 95 o dai mewn mis

Y “cyfnod gorau” mae Morgan & Davies wedi’i gael

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r gwerthwr tai Morgan & Davies wedi dweud wrth golwg360, eu bod wedi gwerthu “rhwng 90 a 95 o dai yn y pedair i bum wythnos ddiwethaf.”

Mae gan y cwmni swyddfeydd yn Llanbed ag Aberaeron.

“Dyma’r cyfnod gorau rydym wedi ei gael, rydym wedi gwerthu rhwng 90 a 95 o dai yn y pedair i bum wythnos ddiwethaf,” meddai un o berchnogion y cwmni, Llion Davies.

“Mae pethau wedi mynd yn well na’r disgwyl ers i ni gael dychwelyd ar ôl y cloi mawr a chyfnod heriol iawn.

“Mae pobol wastad yn awyddus i symud tai ac rydym yn gobeithio bod hi’n aros fel hyn nawr.”