Gwilym Bowen Rhys yn perfformio “Llofruddiaeth Hannah Dafis”

Perfformiad gyfoes o hen hanes llofruddiaeth ar Fynydd Pencarreg.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Heno fel rhan o arlwy Eisteddfod AmGen mae cyfle i glywed recordiad newydd sbon o gân draddodiadol leol a berfformir gan Gwilym Bowen Rhys.

Baled Hannah Dafis sydd o dan sylw ganddo, sef hanes llofruddiaeth merch ifanc o Gefnheblwn Cwmann a lofruddiwyd gan ei chariad David Evans gan ddefnyddio bilwg ar Fynydd Pencarreg yn 1829.

Drigolion Sir Gaerfyrddin ac Aberteifi wiw,

A phawb o’r Cymry mwynion sy’n rhodio tir y byw,

Gwrandewch ar hyn o hanes, truenus i’w goffâu,

Sy’n rhybydd mawr i’r ieuenctid, ac hefyd i bob gwraig.

Roedd merch o blwyf Pencarreg, yn Swydd Gaerfyrddin fawr,

a’i henw, Hannah Dafis, boed hysbys i chwi nawr,

a honno mewn gwasanaeth, yn barchus iawn ei nod,

yn caru â mab ieuanc, o gwmpas ugain oed.

Cerddor o Fethel yn Arfon yw Gwilym Bowen Rhys. Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru. Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun.

Fe enillodd Gwilym y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth dros y byd. Cyhoeddodd ei albym gyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 â gyrhaeddodd restr fer ‘Albym Cymraeg y Flwyddyn’ yn yr Eiseddfod Genedlaethol. Yn 2018 cyhoeddodd y cyntaf mewn cyfres o gasgliadau o hen faledi, ac yn 2019 cyhoeddwyd ei drydedd albym: ‘Arenig’.

Bwriad AmGen yw sicrhau bod elfennau o’r Eisteddfod ar gael i bobl eu mwynhau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Wrth gyhoeddi’r prosiect, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Fel pawb arall, ry’n ni’n hynod siomedig nad oes modd i ni gynnal yr ŵyl yng Ngheredigion eleni.  Ond roedden ni’n benderfynol na fyddai’n rhaid i bawb fynd heb ychydig o ‘Steddfod am eleni.

Nôl ar ddiwedd yr wythdegau, cyflwynwyd hanes Hannah Dafis gan Bethan Phillips, Llanbed yn rhan o gyfres “Dihirod Dyfed” ar S4C.  Fel rhan o fy ngwaith cwrs TGAU ar y pryd, ysgrifennais adolygiad o’r gyfres a fe’i gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc yn Chwefror 1988.  Dyma ddetholiad ohono:

Ai baledi gweledol oedd “Dihirod Dyfed”?

Bu disgwyl mawr yn ein tŷ ni am y gyfres “Dihirod Dyfed” oherwydd cofiaf fy nhad-cu yn canu’r baledi wrthyf pan oeddwn yn iau.  Bu’n canu baled hanes llofruddiaeth Hannah Dafis yn arbennig ac roedd y gyfres yn union fel y dychmygais.

Roedd merch ym mhlwyf Pencarreg

Yn Swydd Gaerfyrddin fawr,

A’i henw Hannah Davies

Boed hwylus i chwi ’nawr;

*    *    *    *    *    *

Ond yn yr hwyr cychwynodd

I fynd tua thŷ ei thad,

Heb feddwl fod ei chwmp’ni

O fwriad gwneud ei brad.

Yn y ddeunawfed ganrif arferai pobl brynu baled yn y ffair ac roedd y gwerthwyr yn ymestyn tipyn ac yn rhybuddio’r bobl.

Roeddwn wedi mwynhau’r chwe rhaglen yn fawr iawn ac roeddwn yn falch pan ddaeth Bethan Phillips yr awdures i’r ysgol i siarad â ni.  Syfyrdanais i glywed fod y criw ffilmio yn cymryd wyth awr y dydd er mwyn cael pedair munud o raglen.

Apeliodd y chwe rhaglen ataf am fod y llofruddiaethau i gyd wedi digwydd yn yr ardal.  Mae’n rhaid i mi ddweud taw “Ffrwd o Waed” a apeliodd ataf fwyaf gan fod cartref Hannah Dafis ar dir fferm fy nhad-cu ac am fy mod yn gwybod ychydig o’r hanes yn barod.

Boed hyn o dro yn rhybudd

I bawb o’r ie’nctid gwiw,

I ‘mwrthod a’r fath bechod,

A gweddio mwy ar Dduw,

Am nerth i rodio’r llwybrau

Sy’n tywys tua’r nen,

Fel byddont gyda’r Iesu,

Mewn mwyniant byth, Amen.

Croniclwyd yr hanes hefyd yng nghyfrol T Llew Jones “Gwaed ar eu Dwylo” a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer.

Yn yr achos llys yng Nghaerfyrddin, rhoddodd David Evans dystiolaeth yn Gymraeg ac fe’i ddedfrydwyd i’r gosb eithaf ar yr 16eg o Fedi 1829.  Ar yr 21ain o Fedi daeth 10,000 o bobl ynghyd i Stryd Spillman, Caerfyrddin er mwyn ei weld yn cael ei grogi’n gyhoeddus.

Roedd hi’n olygfa ddramatig iawn.  Methodd yr ymgais gyntaf i’w grogi oherwydd cwympodd y trawst a ddaliai Evans.

Syrthiodd Evans i’r llawr ac ni anafwyd ef. Roedd yn awr yn disgwyl i’w fywyd gael ei arbed oherwydd ei fod yn credu, gan fod yr ymgais gyntaf i’w grogi wedi methu, na ellid ei ail-hongian. Gwaeddodd yn Saesneg:

“No hang again, no! No! No gentleman was hung twice for the same thing!’

Ailosodwyd y trawst yn gyflym, a pharhaodd y broses. Derbyniodd Evans ei dynged a dringodd y sgaffald am yr eildro. Gosodwyd y gorchudd dros ei ben a phlymiodd i dragwyddoldeb. Gadawyd i hongian am awr a rhoddwyd ei gorff mewn arch agored i’r cyhoedd ei archwilio.

Gallwch glywed perfformiad Gwilym Bowen Rhys o “Llofruddiaeth Hannah Dafis” ar dudalen facebook yr Eisteddfod Genedlaethol.