Bu farw Gwilym Price yn ei gartref yng Nghwmann ddoe ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 90 oed.
Mae ei enw’n gyfarwydd fel perchennog siop gelfi a llestri adnabyddus yn Stryd y Coleg, Llanbed ac ar gwmni trefnwyr angladdau parchus yn lleol.
Roedd yn ddyn teulu hoffus, yn ddyn busnes craff, yn ŵr bonheddig ac yn gefnogwr brwd i bopeth lleol. Ond beth oedd ei gysylltiad ag Eirwyn Pontshân a Vera Lynn?
Ganwyd Gwilym yn Ffarmers ond bu farw ei dad pan oedd Gwilym yn dair oed. Roedd Gwilym a’i ddau frawd John a Tomi wedi gorfod sefyll ar eu traed eu hunain felly o oedran ifanc iawn.
Cafodd Gwilym y profiad cyntaf o waith angladd pan oedd yn 16 oed. Ni fedrodd barhau â’i addysg oherwydd doedd dim arian i hynny. Bu’n cydweithio yn gyntaf fel saer gyda D J Davies yn Llanbed ond gwnaeth ei brentisiaeth gyda Tomos John o Lanybydder.
Ond ar ôl dwy flynedd o fwrw prentisiaeth, cafodd alwad i’r Lluoedd Arfog ac ymuno â’r Awyrlu. Danfonwyd Gwilym i Berlin fel rhan o’r awyrgludiad enwog, y Berlin Airlift yn 1948.
Wedi dychwelyd i Lanbed yn 1950, ailgydiodd yn ei grefft. Roedd ganddo weithdy tu ôl Neuadd y Dref, cyn dechrau rhentu siop yn Stryd y Coleg gan Arthur Rickets. Ond bu farw’r perchennog mewn tân yn yr adeilad yn 1980, a wedi hynny ailadeiladwyd y lle yn siop foethus iawn a welwn heddiw.
Mae Cerdin ac Angharad, dau o’r pedwar plentyn wedi gweithio yn y cwmni gyda Gwilym a Phyllis ers blynyddoedd ac yn y flwyddyn 2000 yr agorwyd capel gorffwys ganddynt yn Stryd y Bont.
Y dyfyniad sydd ar glawr llyfr “Teulu’r Gymwynas Olaf” a gyhoeddwyd yn 2017 yw “Mae delio â’r meirw yn ffordd o fyw i ni…” a phan mae galar yn ein bwrw, rydym i gyd yn dibynnu ar wasanaeth graenus trefnwr angladdau. Mae Gwilym Price a’i deulu felly wedi cyffwrdd bywydau pawb yn yr ardal hon ac yn gefnogaeth i lawer wrth golli anwyliaid.
Gwelwyd proffesiynoldeb Gwilym, Cerdin a’r teulu mewn cyfres ar S4C o’r enw “Traed Lan” yn 2016, ac roedd Gwilym yn ymfalchio yn y ffaith bod plant Cerdin hefyd yn enwedig Rhys a Rhodri yn parhau i weithio yn y cwmni.
Adlewyrchai proffesiynoldeb y cwmni yn y ffaith eu bod yn llwyddo i drefnu angladdau o broffil uchel. Cwmni Gwilym Price ei Fab a’i Ferched oedd yn gyfrifol am angladd Gwynfor Evans a Caio Evans.
Dros y blynyddoedd roedd cyfraniad Gwilym Price yn enfawr i’r fro. Bu’n Ynad Heddwch, yn gynghorwr ac yn Gadeirydd y Siambr Fasnach. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Côr Meibion Cwmann a’r cylch ac roedd yn aelod gweithgar iawn o’r Lleng Brydeinig. Gwilym oedd yr un a ddarllenai wrth y gofgolofn yng Nghwmann bob blwyddyn ar Sul y Cofio. Roedd yn aelod ffyddlon o Gapel Bethel Parc-y-rhos ac yn ymddiredolwr.
Mae Gwilym a’r cwmni wedi cyfrannu cadair eisteddfodol ar sawl achlysur gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol 1984, Eisteddfod CFfI Cymru 1986 ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1999.
Roedd Gwilym yn dipyn o gymeriad, yn berson caredig iawn, yn meddwl y byd o gyrhaeddiadau aelodau’r teulu, yn trysori traddodiadau a’i wreiddiau ac yn dymuno’r gorau o hyd i bobl leol a mudiadau’r fro.
Eirwyn Pontshân – Roedd Gwilym ac Eirwyn Pontshân yn dipyn o ffrindiau. Roedd y ddau yn seiri coed ac yn drefnwyr angladdau ac wedi bwrw eu prentisiaethau yr un pryd yn Llanybydder.
Vera Lynn – Roedd Gwilym wrth ei fodd yn adrodd y stori ei fod wedi canu gyda Vera Lynn. Mewn cyngerdd yn King’s Lynn tra’r oedd yn yr Awyrlu, fe ddechreuodd Gwilym a dau arall ganu ‘We’ll meet again’ yn y gynulleidfa ac fe wnaeth Vera Lynn eu gwahodd nhw i’r llwyfan ati!
Cyn cyfnod y cloi mawr hwn, roedd Gwilym dal i fynychu’r siop yn ddyddiol wedi ei wisgo’n drwsiadus bob tro. Roedd yn mwynhau cwrdd â phawb yn y siop ac ar y stryd am sgwrs hyd y diwedd. Bydd y siop, y cartref, y capel a sawl lle arall yn rhyfedd iawn hebddo. Ond yn yr wythnosau diwethaf, gwaethygodd ei iechyd a bu gofal y teulu drosto yn fawr.
Cydymdeimlir yn ddiffuant â Phyllis ei wraig, Cerdin, Annwyl, Angharad ac Eleri y plant a’u teuluoedd.