Gwobr Prif Fridiwr Gwarffynnon

Holstein UK yn gwobrwyo buches o Silian.

Mae David a Gwen Davies a’i mab Aron Dafydd o Fferm Gwarffynnon, Silian, Llanbedr Pont Steffan wedi derbyn gwobr Prif Fridiwr ‘Master Breeder’ gan Holstein UK ar gyfer ei buches, Ormond.

Mae’r gymdeithas yn gwobrwyo aelodau sydd wedi cyrraedd safon rhagorol mewn cynhyrchiant llaeth ac wrth sgorio’r gwartheg.

Cafodd 19 buches eu gwobrwyo ar draws Prydain eleni a buches Ormond yn un o bedair o Gymru. Maent yn godro 138 o wartheg Holstein pur a Jerseys ac yn bridio’i stoc ifanc ei hun ar 180 acer ar gyrion Llanbed.

“Anrhydedd oedd cael ein henwebu am y wobr a sioc oedd ei dderbyn. Ers blynyddoedd, rydym yn mwynhau bridio gwartheg a gwella’r fuches. Rydym yn ymfalchio mewn cynhyrchu llaeth o borfa mewn ffordd cynaliadwy.”