Gwobrwyo Aelodau Iau a Hŷn y Flwyddyn ac enillydd y Cais am Swydd CFFI Sir Gâr

C.Ff.I Sir Gar
gan C.Ff.I Sir Gar

Cystadleuaeth Aelod Iau y Flwyddyn

Gofynion y Gystadleuaeth:

Rhan 1 – Bydd yn ofynnol i gystadleuwyr gyflwyno ffurflen crynodeb wedi’i llenwi dylai fod yn hwy na dwy ochr o ddalen A4, yn amlinellu eu gweithgarwch yn y CFfI.

Rhan 2 – Gofynnir i’r Cystadleuydd baratoi cyflwyniad, yn cynnwys eu profiad yn y CFfI ar lefelau’r Clwb a’r Ffederasiwn Sirol, a dylid cynnwys gweithgareddau oddi allan i’r CFfI. Dylai’r cyflwyniad fod yn seiliedig ar brofiadau a gafwyd yn y 12 mis diwethaf. Gwneir y cyflwyniad o flaen y beirniaid.

Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mrs Mair Jones a Mrs Eleri Jenkins.

Neges gan y beirniaid:

Cystadleuaeth o safon uchel uchel iawn. 14 wedi ymgeisio ac fe all y 14 fod wedi cael y teitl o aelod iau y flwyddyn am eu gwaith gwych yn ystod y flwyddyn gyda’u Clwb ac yn eu Cymunedau.

Rhiannon Jones o CFFI Dyffryn Tywi gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Iau CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2019-20. Mae Rhiannon yn 17 Mlwydd Oed – Blwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac yn astudio Cymraeg, Bwyd a maeth ac Amaethyddiaeth.

Mae Rhiannon wedi bod yn ysgrifennydd Rhaglen ar y Clwb a bellach yn Ysgrifennydd Cofnodion ar y Clwb ac mae’n aelod o Fforwm Ieuenctid y Sir.

Un o brif uchafbwyntiau Rhiannon oedd cystadlu yng nghystadleuaeth rownderi yn Stafford. Fe ddaeth y Clwb yn bedwerydd ar ddiwedd y dydd ond yn bwysicach na hynny roedden wedi gwneud ffrindiau gydag aelodau eraill o’r mudiad ar draws Lloegr a Chymru. Un o’r profiadau mwyaf bythgofiadwy cafwyd yn ystod y diwrnod oedd diddordeb aelodau eraill am fod aelodau Clwb Dyffryn Cothi a’r Sir a chefnogwyr yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd. Gwelom bwysigrwydd o siarad yr iaith.

Uchelgais Rhiannon tu allan y CFFI yw llwyddo yn ei arholiadau Lefel A ac wedi hynny, yr uchelgais yw cael ei derbyn i Brifysgol Aberystwyth i astudio cwrs Amaethyddol a Busnes.

Mae teithio i Seland Newydd wedi bod yn freuddwyd ers blynyddoedd I Rhiannon hefyd er mwyn gweld y modd o fyw yno a system amaethyddol y wlad.

Cystadleuaeth Aelod Hŷn y Flwyddyn

Gofynion y Gystadleuaeth:

Rhan 1 – Bydd angen i gystadleuwyr lenwi ffurflen gais, gan gynnwys manylion am eu gweithgarwch yn y CFfI.

Rhan 2 – Cyfwelir cystadleuwyr gan banel o feirniaid, mewn awyrgylch anffurfiol.

Beirniaid y gystadleuaeth yma oedd Mrs Christina Jenkins a Mrs Angharad Rees.

Neges gan y beirniaid:

Er mai ond dwy aelod cystadlodd yn y gystadleuaeth yma, fe all unrhyw un o’r ddwy wedi cael y teitl o aelod hyn y flwyddyn. Roedd y ddwy yn angerddol iawn dros y Mudiad ac mae’r ddwy wedi gwneud gwaith gwych iawn dros eu Clybiau, dros y Sir a’i chymuendau. Roedd gan y ddwy syniadau o sut i ddatblygu’r Mudiad a gobeithio bydd y ddwy yn dilyn y gweledigaethau yma. Llongyfarchiadau i’r ddwy – dylem fod yn browd iawn.

Mared Evans o CFFI Penybont gaeth yr anrhydedd o fod yn Aelod Hŷn CFFI Sir Gâr am y flwyddyn 2019-20. Mae Mared yn 25 mlwydd oed ac yn Athrawes Gynradd yn Ysgol Bro Teifi.

Swyddi mae Mared wedi’ ddal ar lefel Clwb – Ysgrifennydd Cofnodion, Is-Ysgrifennydd, Ysgrifennydd, Is-Gadeirydd, Cadeirydd, Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau Cymdeithasol.

Swyddi ar lefel Sir – Dirprwy Lysgenhades y Sir, Aelod o Bwyllgor Cyllid CFFI Sir Gâr, Cynrychioli Sir Gâr ar Bwyllgor Digwyddiadau a Marchnata CFFI Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Mared wedi cystadlu yn Siarad Cyhoeddus CFFI Cymru 2019, Rali’r Sir, Eisteddfod Sir ac Eisteddfod CFFI Cymru, Cwis y Sir a Noson Chwaraeon y Sir.

Roedd Mared hefyd wedi hyfforddi tîm dan 21 oed CFFI Llanllwni ar gyfer y gystadleuaeth Siarad Gyhoeddus Cymraeg a Saesneg – gyda tim dan 21 Cymraeg yn ennill ar lefel Sirol ac yn mynd ymlaen i lefel CFFI Cymru.

Cystadlodd gyda thîm dan 26oed CFFI Penybont yn Siarad Cyhoeddus Cymraeg a Saesneg ac yn cael ei dewis fel y cadeirydd gorau i fod yn aelod o dîm Sir Gâr yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer y gystadleuaeth Genedlaethol ym mis Mawrth 2020

Uchelgais Mared tu allan y CFFI yw gorffen adnewyddu ei chartref cyntaf a byw ynddo yn hapus. Mae Mared yn gobeithio hefyd roi nôl i’r gymuned am yr holl brofiadau mae wedi ei dderbyn drwy gefnogi’r mudiadau/clybiau mae wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan ohonynt.  Mae ganddi ddyled enfawr i Aelwyd Hafodwenog a Dawnswyr Talog ac, heb os nac oni bai, i fudiad y ffermwyr ifanc ac i CFFI Penybont.

Cystadleuaeth Cais am Swydd

Gofynion y Gystadleuaeth:

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd i ddewis eu hysbyseb swydd eu hunain i wneud cais am, sydd yn berthnasol iddynt hwy. Rhaid i’r hysbyseb wedi cael eu hysbysebu o fewn y 12 mis diwethaf cyn dyddiad y gystadleuaeth. Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno’r hysbyseb wreiddiol gyda chyfeiriad o ran ble a phryd gyhoeddwyd yr hysbyseb ynghyd â CV a llythyr eglurhaol.

Rhaid i’r CV beidio â bod yn fwy na 2 ochr o bapur A4. Ni ddylai’r llythyr cais fod yn fwy nag 1 ochr o bapur A4.

Yna bydd gofyn i’r cystadleuwyr i fynychu cyfweliad fydd yn cynnwys cwestiynau penodol am y swydd yr ymgeisir amdano a gofynion perthnasol sy’n ymwneud â’r hysbyseb.

Beirniaid y gystadleuaeth hon oedd Mrs Christina Jenkins a Mrs Angharad Rees.

Neges gan y beirniaid:

Cystadleuaeth safonal iawn iawn – byddai’r chwech cystadleuwyr wedi dod ben a chael swydd yn ei meysydd gwahanol. Llongyfarchiadau i’r chwe aelod.

Sioned Howells o CFFI Llanllwni ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth yma. Mae Sioned yn 20 mlwydd oed ac yn astudio Bydwreigiaeth BMid yn yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe.

Mynychodd Ysgol Bro Teifi a buodd yn brif ferch yn 2017-18.

Fel aelod mae Sioned wedi bod yn Ohebydd ar y wasg ac yn ysgrifennydd cofnodion gyda’r Clwb ac yn 2017 hi oedd aelod iau y Flwyddyn dros y Sir. Mae hefyd wedi cystadlu yn nifer fawr o cystadleuthau megis Siarad Cyhoeddus, Adloniant, Rali’r Sir ac yn yr Eisteddfod.

Mae Sioned yn hoff iawn o ganu, llefaru ac yn chwarae’r piano.

Y swydd aeth Sioned am: “swydd Gweithiwr Cynorthwyol ar y Ward Oncoleg” gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Llongyfarchiadau mawr i’r tair a phob lwc iddynt ar lefel Cymru, Rhiannon a Mared ar benwythnos Dramau CFFI Cymru ar y 29ain/30ain o Chwefror yng Nhaernarfon a Sioned ar benwythnos Siarad Cyhoeddus CFFI Cymru ar yr 22ain o Fawrth ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.