Gwybodaeth am Bapur Bro Clonc

Pwy yw Pwy a Beth yw Beth?

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Papur bro ardal plwyfi: Cellan, Llanbedr Pont Steffan, Llanbedr Wledig, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanllwni, Llanwenog, Llanwnnen, Llanybydder a Phencarreg.

Hwn rydd ysbonc i’ch cloncian; ac ennyn

Ei gynnwys ymddiddan;

Daw â lles i fywyd llan;

Ein huno yw ei anian.

T. Glenfil Jones, Llanybydder

Amcanion Clonc

– Hybu Cymreictod a sicrhau twf yn y nifer o bobl sy’n darllen Cymraeg.

– Sicrhau bod y papur ‘yn gyfrwng i’n cael i adnabod ein bro a’n pobl yn well.’

– ‘A bod y papur yn sbardun i hybu gweithgareddau cymdeithasol o bob math.

Hanes Clonc

  • Sefydlu’r papur yn 1982
  • Cyhoeddi 10 rhifyn bob blwyddyn
  • 3 rhifyn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1984
  • Ebrill 2003 – Cyhoeddi un erthygl y mis ar wefan BBC Cymru’r Byd
  • Rhagfyr 2006 – Cloriau lliw am y tro cyntaf
  • Mehefin 2007 – Dylunio’r papur gyda chyfrifiadur
  • Ionawr 2008 – Sefydlu gwefan Clonc
  • Ebrill 2015 – Sefydlu gwefan Clonc360

Tîm Golygyddol:

Elaine Davies, Gwyneth Davies, Dylan Lewis, Marian Morgan, Delyth Morgans Phillips, Siwan Richards, Iona Warmington a Lois Williams.

Rota Golygyddion 2023-24

Gohebwyr Lleol:

Cellan Alwen Edwards; Cwmann Sian Roberts-Jones; Cwmsychbant Mary Davies; Llanwenog Mary Davies; Drefach Eifion Davies; Gorsgoch Eiddwen Hatcher; Llanbed Janet Evans; Llanfair Dan ac Aerwen; Llangybi Lowri Pugh-Davies; Llanllwni Eirlys Owen; Llanwnnen Cerian Jenkins; Llanybydder Menna Jones; Pencarreg Heiddwen Tomos.

Bwrdd Busnes:

Cadeirydd Dylan Lewis

Is Gadeirydd Gwyneth Davies

Ysgrifennydd Mary Davies

Trysorydd Nia Wyn Davies