Gŵyl Gwrw a Seidr – Ford Gron Llambed

gan Andrew James Davies

Cynhaliwyd chweched Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed ar ddydd Sadwrn y 15fed o Chwefror 2020, gan Ford Gron Llambed.

Er y tywydd stormus ac oer tu fas, roedd yna groeso cynnes a chlud, diod a chlonc ar gael yn Neuadd y Celfyddydau, y Brifysgol.

Hefyd, roedd yna westeion arbennig eleni wrth i raglen ‘Heno’ ddarlledu’n fyw o’r ŵyl – braf oedd gweld cyflwynwyr adnabyddus y rhaglen, Elin Fflur a Daf Wyn, yn cymysgu a sgwrsio gyda’r gynulleidfa a chlywed hanesion pobl yr ardal. Yn ogystal, cyflwynwyd rhodd o £100 i Fanc Bwyd Llambed gan ‘Heno’.

Mae’r Ŵyl, sydd yn cael ei threfnu gan Ford Gron Llambed, wedi mynd o nerth i nerth ers cael ei sefydlu, ac wedi ennill ei phlwyf yng nghalendr cymdeithasol y dref a’r ardal.

Roedd dros 25 o wahanol fathau o gwrw ar werth, a dros 15 o wahanol seidr – rhywbeth at ddant pawb! Ac fe gafodd y gynulleidfa ei diddanu gan ddetholiad arbennig o gerddorion lleol, gan gynnwys ‘Candy Mountian’, ‘Unwaith Eto’, a ‘Band Iwcalili Llambed’.

Dymuna Ford Gron Llambed ddiolch i bawb a wnaeth gefnogi’r digwyddiad: i bobl yr ardal am fynychu yn eu cannoedd unwaith eto, er y tywydd gwlyb; i aelodau o Glwb 41 a wnaeth helpu allan ar y dydd ac yn ystod y paratoadau; ac i’r holl fusnesau fu’n cefnogi a noddi’r digwyddiad. Iechyd da pawb – a welwn ni chi flwyddyn nesaf!

Mae Ford Gron Llambed yn clwb cymdeithasol i ddynion ifanc yr ardal, sydd yn cynnal digwyddiadau yn y dref, ac yn codi arian at achosion da. Rydym yn chwilio am aelodau newydd – os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ein digwyddiadau a chodi arian at achosion da yn eich cymuned, yna cysylltwch â ni: info@lampeterroundtable.org.uk