Holwyd i ddisgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Bro Pedr, i hunan-ynysu ddoe ar ôl i’r Ysgol dderbyn gwybodaeth am achos COVID-19.
Gofynnwyd i’r Grŵp Cyswllt Blwyddyn 10 i hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau gydag achos COVID-19 a gadarnhawyd. Rhaid i’r disgyblion a rhai staff dysgu aros adref tan ganol nos ar 8 Rhagfyr i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.
Dywedodd Mrs Jane Wyn y pennaeth “Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un Grŵp Cyswllt yn y Sector Uwchradd y gofynnir iddo hunan-ynysu. Mae’r Ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni eisoes a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Cyngor Sir Ceredigion.”
Bydd athrawon Blwyddyn 10 yn gosod gwaith ar gyfer y disgyblion drwy Teams a bydd yr Ysgol ar agor i bob disgybl arall, oni bai am ddisgyblion yr Uned dan 5 a disgyblion Blwyddyn 10.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r prif symptomau, sef tymheredd uchel, peswch parhaus newydd, colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Gellir gwneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119. Mae’n hanfodol bod rhieni’n cysylltu gyda’r Ysgol hefyd os oes plentyn yn datblygu unrhyw symptomau.
Ymhlith clybiau a sefydliadau lleol eraill cyhoeddodd Ysgol Ddawns Sally Saunders ei bod yn addasu ei gweithdrefnau hefyd.
“Oherwydd y gyfradd gynyddol o Covid yn ein hardal leol a chyda’r ail achos cadarnhaol yn ein hysgolion lleol rydym wedi dod i’r penderfyniad i symud ein gwersi yn ôl ar-lein ar unwaith.”
Ychwanegodd Sally Saunders “Mae diogelwch ein myfyrwyr a’n teuluoedd o’r pwys mwyaf a chydag ychydig dros bythefnos o ddosbarthiadau ar ôl rwy’n siŵr y gallwn ni lanhau’r sgriniau cyfrifiadurol hynny ac ail-ymgynnull ar Zoom!”
“Bydd yr amserlen yn aros yr un peth. Ymddiheuriadau am y rhybudd byr ond mae hon yn sefyllfa sy’n newid yn gyflym!”
Dymunir yn dda i bawb sydd wedi eu heffeithio ac i bawb sy’n gwneud eu gorau i warchod y gymuned arbennig hon.