Cartref Preswyl Hafan Deg yw un o’r cartrefi sy’n profi technoleg newydd i gael clonc.
Y preswylydd cyntaf i roi cynnig ar y fideo gynadledda oedd Mair Davies o gartref gofal preswyl Hafan Deg. Dywedodd Jên Dafis, ei merch: “Diolch am eich cydweithrediad. Roeddwn i’n falch iawn o weld mam.”
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod heriol hwn o hunanynysu, ac mae’n gwerthfawrogi ei bod hi’n anodd i deuluoedd nad ydynt yn gallu ymweld â’u hanwyliaid yn ein cartrefi gofal.
Mae’r staff ymrwymedig yn gwneud gwaith anhygoel yn cefnogi ac yn gofalu am ein preswylwyr, ac er mwyn cynnig cysur ychwanegol i’n preswylwyr wrth eu cadw’n ddiogel, mae cyfleusterau fideo-gynadledda wedi’u gosod ym mhob un o gartrefi gofal y Cyngor, gan gynnwys:
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn cysylltu â pherthnasau i roi gwybod iddynt am yr offer newydd ac er mwyn trefnu cynadleddau fideo. Gellir trefnu sesiynau drwy gysylltu â thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570 881. |