Ishe sgwennu drama am realiti byw yng nghefn gwlad yn 2020?

​Mae Theatr Troed-y-rhiw yn awyddus i gomisiynu dramodydd i sgwennu drama newydd…

Carys Mai
gan Carys Mai
Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw

Yn galw sgwennwyr a dramodwyr Ceredigion!

Mae Theatr Troed-y-rhiw yn awyddus i gomisiynu dramodydd (neu ddramodwyr) i sgwennu drama i’w pherfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Tregaron ac yn rhan o arlwy yr Ŵyl Ddrama (gŵyl ddrama Theatr Troed-y-rhiw a Theatr Felinfach) yn nhymor yr hydref 2020.

Wyt ti ishe cyfle i sgwennu drama heriol newydd? Oes gen ti stori i’w dweud am realiti byw yng nghefn gwlad yn 2020?

I weld copi o’r brîff, clicia yma.

***Dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb: 26 Chwefror***

Dyma dy gyfle! Am ragor o fanylion cysyllta gyda Carys Mai ar carysmailloyd@gmail.com / 07807 424147