Cofio cymeriad diddorol – D Jacob Davies, Alltyblaca

Detholiad o deyrnged Mary Eunice Williams i D Jacob Davies a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

gan Gwyneth Davies

D Jacob Davies

Roedd mam, sef Mary Eunice Williams wrth ei bodd yn ysgrifennu, a threuliai oriau wrth fwrdd y gegin yn rhoi pensil ar bapur. Arferai gystadlu’n flynyddol yn Eisteddfod Pantyfedwen, Llambed ac enillodd y Fedal Ryddiaith droeon. Er ein bod wedi colli mam bellach, erys ei gwaith ar gof a chadw o hyd. Dyma ddetholiad felly o’i theyrnged hi i D.Jacob Davies – cymydog a ffrind annwyl i ni fel teulu. Ysgrifennwyd y deyrnged hon ym 1991.

Credaf mai lle diflas ac undonog fyddai’r byd yma pe bai pob bod dynol yr un fath- mewn ymddangosiad, iaith, gallu a hoffter at bethau megis bwyd, dillad a diddordebau. Ie, pob un fel y stamp a roddir ar lythyr – neb  yn wahanol  i’w gilydd. Wel, a bod yn onest, fe fyddai bywyd yn amhosibl. Ni fyddai neb yn adnabod ei gilydd, neb yn arbenigo mewn unrhyw alwedigaeth –  pawb yn dilyn yr un ffordd o fyw. Felly,  gellir  ymfalchïo yn y ffaith bod bodau dynol yn gwahaniaethu mewn cynifer o ffyrdd,’ gan roi lle i’r llon a’r lleddf. Ceir gwahanol gymeriadau mewn gwahanol ardaloedd. Saif rhai allan fel cymeriadau diddorol, tra bod eraill yn hollol ddi-nod.  Yn sicr, mae lle i bawb mewn cymdeithas. Rhydd pob un ryw gyfraniad tuag at hyrwyddo a chyfoethogi ei fro.

Mary Eunice Williams

Os bu yna gymeriad diddorol erioed, D. Jacob Davies oedd hwnnw. Mae ambell berson yn gorfod ymdrechu i ymddangos ei fod yn ddiddorol am mai un digon anniddorol ydyw mewn gwirionedd. Nid felly Jacob. Roedd fel  pe bai iaith ddifyrrus, goeth wedi meddiannu ei gyfansoddiad o’i gorun i’w sawdl. Byddai’n byrlymu dros  ei wefusau pan fyddai’r amgylchiadau’n caniatáu. Ond gwyddai sut i ffrwyno’r  ddawn honno pan fyddai’r sefyllfa’n gofyn am ymddygiad gwahanol.

Roedd Jacob yn bregethwr diddorol, yn syml a dealladwy. Nid oedd yn credu mewn defnyddio geiriau mawr, diwinyddol pan fyddai rhai llai yn gwneud y tro. Drwy hynny, medrai ddal sylw ei gynulleidfa a gyrru’r neges  adref. Doedd neb yn cysgu tra byddai ef yn y pulpud. Byddai’n fywiog ei ymarweddiad, a gellid  synhwyro ystyr y cuwch a’r wên ar ei wyneb a thrwy hynny fyfyrio’n haws ar gynnwys y bregeth. Cyfrinach y graen a geid ar ei bregeth oedd y ffaith ei fod wedi paratoi yn drwyadl. Mae’n syndod iddo fedru gwneud hynny gan fod cymaint o alwadau arno o bob cyfeiriad. Eithr, daliai ar bob cyfle i roi popeth yn barod erbyn y Sul ac unrhyw weithgaredd arall yn ymwneud â’r Capel. Gallaf dystio iddo dreulio  oriau yn ei stydi bob wythnos. Roedd honno ar y llofft,  ac yntau’n edrych allan drwy’r ffenestr ar ein cae ni. Ni fyddai byth yn tynnu’r llenni, hyd yn oed ar nosweithiau hir a thywyll y gaeaf. “Rwy’n ca’l llawer o syniade oddi wrth y da, y defed a’r ŵyn, a hyd yn o’d ambell iâr”, meddai, “pan fydda’ i’n paratoi erbyn y Sul, ne’ yn ’neud rh’wbeth fel  barddoni. Mae’n syndod  faint o help ma’ nhw’n rhoi i fi. P’id’wch â’u gwerthu nhw”, medde fe, “fydd ’da fi ddim byd i helpu fi wedyn – dim ond coed a phorfa”.

Cofiaf am Jacob yn  rhoi cyngor i mi  un tro a minnau’n paratoi ar gyfer llywyddu mewn Cymanfa Ganu. “P’id’wch a bod ofan sefyll o fla’n pobol”, meddai, “a siarad â nhw. Fydd ‘na ddim un angel – pobl gyffredin fel  chi a fi fyddan nhw i gyd, a leicen i weld rhai ohonyn nhw’n treio ’neud rh’wbeth yn gyhoeddus”. Yn  wir,  rhoddodd ei gyngor dipyn o hunanhyder i mi, a phob tro y byddaf yn ceisio gwneud rhywbeth o’r fath, daw ei eiriau calonogol i’m cof. Daeth Jacob yn enwog a phoblogaidd drwy’r wlad, ond aeth e ddim yn rhy fawr i’w ‘sgidie. Na, ’dyn bach o’r wlad’ oedd e’ hyd y diwedd. Er iddo ddringo’n uchel ym myd addysg a chyfrannu’n  helaeth at lenyddiaeth a barddoniaeth Cymraeg, ennill anrhydeddau lu, cymryd rhan mewn rhaglenni radio  ac  ymddangos  ar y teledu, yr un person oedd e’ o hyd. “Ma’n rhaid i chi gadw’ch pen”, medde fe. “Dyw balchder dda i ddim – dim ond lleihau ffrindie dyn”. Roedd yn ffigur enwog ar lwyfan Eisteddfodau Cenedlaethol, fel arweinydd a beirniad. Pa beth bynnag oedd ei orchwyl, gellid bod yn sicr y byddai’n feistr ar ei waith ac yn difyrru a diwallu ei wrandawyr. Dyn byr oedd e gyda choesau byrion. Er hynny, medrai gerdded yn eitha’ cyflym. Tua dechrau’r saithdegau, gellid  synhwyro  ei fod yn  gofidio am ei bwysau. Cerddai i gapel Alltyblaca,yn lle mynd yn  y car fel arfer. Taith fer ydyw o’r Mans, ond gwyddai y byddai’n lles i’w iechyd ei cherdded. Roedd ganddo feic hefyd. Byddai’n ei ddefnyddio’n frwdfrydig iawn ambell dro, ond, nôl i’r car yr âi ymhen rhai dyddiau, gan anghofio popeth am rywbeth fel pwysau.

Ceir hanes Jacob Davies yn llawn yn rhifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar gael nawr am ddim ar wefan y papur.