John Conrad a’i ymdrechion codi arian yn Llanybydder

Gwnaeth 10 lap o’r maes parcio bob dydd dros ddeg diwrnod.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

John Conrad gydag Alan a fu’n un o’i anogwyr dros y diwrnodau.

Heddiw yw diwrnod olaf John Conrad Seaman i wneud deg lap o faes parcio Llanybydder yn ei gadair olwyn er mwyn codi arian tuag at dwy ysbyty.

Dros y deg diwrnod diwethaf, mae Conrad wedi gwneud 10 lap pob dydd, sef cyfanswm o 100 lap a chodi arian tuag at adrannau ysbyty a fu o gymorth iddo ef dros y blynyddoedd.

Bu Conrad mewn damwain gas deg mlynedd yn ôl a bu’n rhaid iddo golli rhan o’i goes mewn llawdriniaeth y llynedd yn sgil y ddamwain.

Erbyn hyn, mae e wedi codi dros £600 a chaiff yr arian ei rannu rhwng Ward 6 Ysbyty Tywysog Phillip Llanelli ac ALAS Ysbyty Treforys.

Esbonia Conrad, “10 mlynedd yn ôl cefais “ddamwain” o 7fed llawr mewn maes parcio aml-lawr lle cefais anafiadau a oedd yn peryglu fy mywyd.”

“Roeddwn nôl a mlaen i’r ysbyty gyda sepsis, osteomylitis a oedd yn peryglu fy mywyd a chollais rhan o fy nghoes oherwydd cymhlethdodau”

“Rwy’n gwneud hyn i gydnabod y gefnogaeth a’r anogaeth a dderbyniais. Bydd 50% yn mynd i’r GIG a 50% ar gyfer offer chwaraeon i bobl anabl.”

Gallwch gyfrannu tuag at ymdrechion Conrad drwy dudalen justgiving.

Mae Conrad hefyd yn gwerthu cerrig camu wedi eu haddurno o ardd flaen ei gartref yn rhif 2 Teras yr Orsaf, Llanybydder.  Mae nifer cyfyngedig ar ôl am £3.50 yr un neu dair am £10.  Cofiwch ei gefnogi.