Ben Lake yn canmol ymateb Clybiau Ffermwyr Ifanc

Clybiau Ffermwyr Ifanc yn cydweithio a’i gilydd a’r Cyngor Sir i gefnogi eu cymunedau gwledig.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Ben Lake wedi cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-dydd yn y Senedd yn canmol Clybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru am eu hymateb i’r coronafeirws.

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc ledled Ceredigion a Chymru wedi bod yn cefnogi eu cymunedau gwledig lleol yn argyfwng y coronafeirws.

Dywedodd yr Aelod Seneddol: “Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r Cynnig Cynnar-yn-y-dydd hwn yn y Senedd sy’n cydnabod y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc yng nghymunedau cefn gwlad yn ystod yr argyfwng hwn.

“Mae’r C.Ff.I. yn fudiad sydd wrth wraidd cymdogaethau cefn gwlad, a dros y degawdau mae ei aelodau wedi chwarae rhan annatod yn cefnogi a chyfrannu at fywyd ein cymunedau gwledig.

“Gwn y bydd y weithred hon o garedigrwydd a’r gefnogaeth a ddarperir gan aelodau C.Ff.I. ledled y wlad yn dod â chysur i lawer o unigolion bregus ar adeg eithriadol o heriol.”

Cydweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn cydweithio gyda mudiadau fel y Ffermwyr Ifanc er mwyn dosbarthu bocsys bwyd i bobol ar draws y sir.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae swyddogion y Cyngor yn darparu bocsys bwyd ar draws Ceredigion. Rydym wedi cael cymorth sawl sefydliad, gan gynnwys Clybiau Ffermwyr Ifainc Ceredigion.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r cynnydd yn yr ysbryd cymunedol sydd wedi bod yn help i lawer o bobl ar draws ein sir.”

Mae Lauren Jones, aelod o C.Ff.I. Llanwenog, wedi bod yn gwirfoddoli yn ei chymuned leol a diolchodd am gefnogaeth Ben Lake i Glybiau Ffermwyr Ifanc.

“Rydym yn ffodus iawn o’r gefnogaeth a gawn fel mudiad gan ein cymunedau lleol drwy gydol y flwyddyn, felly mae’r cyfnod hwn o argyfwng yn rhoi cyfle i ni ddangos ein diolchgarwch.

“Mae’n bleser i ni fel aelodau gynnig help llaw ac mae’r gwerthfawrogiad a dderbyniwn yn arwydd bod einhaelodau yn cynnig gwasanaeth hanfodol i’r gymuned.”

Ar flaen y gad

Ar bodlediad arbennig gan Bro360 sy’n edrych ar sut mae grwpiau mewn cymunedau yn Arfon a Cheredigion wedi cael eu ffurfio dros yr wythnosau diwethaf eglurodd Elin Rattray, Aelod Iau’r Flwyddyn Mudiad y Ffermwyr Ifanc fod y mudiad ar flaen y gad ac wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn ymhell cyn i gyfyngiadau’r llywodraeth gael ei rhoi mewn lle.

“Cyn i ni fel mudiad gynnig y syniad i’r clybiau, roedd y clybiau wedi dechrau cynllunio ymlaen.”

“Mae yn natur Clybiau’r Ffermwyr Ifanc i helpu’r gymuned.”