“You Lampeter girls can drink” oedd ymateb y ffrindiau Saesneg

Cyfrinachau merch o Gwmann sy’n denu ac ysgogi cwsmeriaid yn y byd ffasiwn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

“You Lampeter girls can drink.”  Dyna a ddywedodd ei ffrindiau Saesneg ym Mhrifysgol Caerfaddon wrth Heini Thomas o Gwmann ar noson ei phen-blwydd yn 21 oed pan aeth merched Llanbed i aros ati gyda Sloe Gin Teleri Gwyther! “A sdim eisiau dweud mwy am y penwythnos ‘ny” meddai Heini!

Mae Heini yn gweithio i New Look erbyn hyn fel Visual Merchandiser, a hi sy’n ateb cwestiynau Cadwyn Cyfrinachau Papur Bro Clonc y mis hwn.

Hoffai ddweud ei bod yn edrych yn debyg i Carrie Bradshaw, ond cyfaddefa ei bod yn fwy tebyg i Bridget Jones!

Yr eiliad balchaf iddi’n broffesiynol oedd gweld ei dillad ar y catwalk yn Llundain a phetai’n gallu gwario £10,000 mewn awr byddai’n buddsoddi yn ei busnes ei hunan.  Wedi dwed hynny, mae’n poeni am y diwydiant ffasiwn eleni.  Byddai’n dymuno gweithio ei hunan i fyny yn y maes, “ond gyda blwyddyn fel eleni pwy a wyr ble fydda i.”

Mae’n hoffi arbrofi gyda’i gwisgoedd ei hunan, ond mae’n bosib mai ei hoff wisg bersonol yw’r ffrog ddu a siaced drosti.

Mae hi’n fwyaf hapus yw gyda chwmni teulu a ffrindiau. “Os yw 2020 wedi dysgu un peth i fi” meddai Heini “mwynhau pob eiliad gyda’r rhai o’n cwmpas pryd y gallwn yw hwnnw.”

Er mwyn darganfod mwy o gyfrinachau am Heini Thomas o Gwmann, prynwch gopi o rifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.