Lansio Geirfa Sgiliau Nofio ac Hyfforddiant yn y Gymraeg

gan Siwan Richards

Lansiwyd llyfryn Geirfa Sgiliau Nofio ac Hyfforddiant mewn digwyddiad her Sportsathon, gan y Gwasanaeth Hamdden ym Mhwll Nofio Llambed fore Gwener, 13 Mawrth.

Fel rhan o her Sportsathon, bu aelodau’r staff yn cymryd rhan mewn sialensau beicio, rhwyfo, rhedeg a nofio, er mwyn casglu arian a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hamdden sydd ar gael yn lleol.

Bydd y llyfryn yn helpu swyddogion gyda geiriau cyffredin ym maes gwersi nofio a sesiynau hyfforddiant. Bydd yn ganllaw cyflym i’r Gymraeg wrth iddynt ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i drigolion Ceredigion.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet dros Gwasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Meddai: “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i gefnogi’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg, gan sicrhau bod ei wasanaethau a’i weithgareddau yn hyrwyddo ac yn hybu defnydd o’r Gymraeg ledled y Sir. Mae datblygu adnoddau er mwyn cynorthwyo swyddogion i wella eu sgiliau iaith yn allweddol. Bydd y llyfryn yma’n werthfawr iawn i’n staff sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg.”

Mae’r llyfryn poced wedi ei rannu yn ddeg pennawd, gydag amrywiaeth o eirfa cyffredin, gan gynnwys cyfarchion, geirfa ateb y ffôn, cyfarwyddiadau, rhannau o’r corff, sgiliau nofio ac ymadroddion hyfforddi.

Dywedodd Swyddog Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion, Carys Morgan, “Bydd y llyfryn geirfa yn helpu i wella sgiliau iaith swyddogion sy’n swil yn eu Cymraeg, a dros amser bydd yn fodd i feithrin hyder a chynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.”

Mae’r Cyngor yn cefnogi staff i wella eu sgiliau iaith, yn ddysgwyr, yn siaradwyr swil, yn ogystal â siaradwyr rhugl. Mae gwelediad geirfa cyffredin yn fodd i wella sgiliau a rhugledd yn y Gymraeg.