Cau lens y camera am y tro olaf

Y Ffotograffydd Tim Jones yn rhoi’r gorau i dynnu lluniau

gan Twynog Davies

Mae Tim Jones, Llanbed wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o dynnu lluniau a hynny wedi dros deugain mlynedd o gofnodi digwyddiadau’r ardal, ac yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc, ceir peth o’i hanes fel Cymeriad Bro.

Ffermwr oedd Tim yn ardal Llangeithio pan brynodd ei gamera cyntaf am £100, sef pris buwch odro ar y pryd.

Bu’n ffotograffydd swyddogol Papur Bro Clonc am flynyddoedd ynghyd â gwneud gwaith llawrhydd i’r Cambrian News, y Journal a Phapur Bro Y Barcud.

Wrth edrych yn ôl mae Tim wedi tynnu lluniau di-ri o briodasau, sioeau brenhinol a lleol, a nifer fawr o’r enillwyr ymysg yr anifeilaid a chystadlaethau amrywiol eraill.

Bu mudiad y ffermwyr ifainc hefyd yn rhan bwysig o’i waith. Braint di-gymysg iddo oedd cael tynnu lluniau rhai enwogion megis yr Arlywydd Jimmy Carter yn Nhafarn y Ram, Tywysog Cymru ar ei ymweliad â Llanbed a Thalgarreg, a’r diweddar Gwynfor Evans.

Cofiwch brynu eich copi o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen mwy amdano.