Llaeth lleol o’r fuwch i’r ford frecwast

Podcast cynnyrch lleol gan Cennydd.

Cennydd Jones
gan Cennydd Jones
Llaeth Llanfair

Mae’r rownd laeth yn rhywbeth anarferol iawn ers troad y mileniwm. Nawr, gyda pheiriannau gwerthu llaeth ar gael, cyfryngau cymdeithasol a chwsmeriaid sydd eisiau cynnyrch cynaliadwy a lleol, mae yna atgyfodiad yn y rownd laeth wedi bod.

Ond, nid rowndiau llaeth cyffredin yw’r rhain!  Yn y podlediad yma, bydda i yn sgwrsio gyda Dafydd o ‘Llaeth Llanfair’, Aron o ‘Gwarffynnon’ a Colin o ‘Llaethdy Lleol’ – tri chwmni a fydd yn dod tipyn mwy amlwg dros y misoedd nesaf wrth iddynt sefydlu busnesau gwerthu llaeth yn syth i’r cwsmer.