Diben hyn yw sicrhau’r lefel uchaf o ddiogelwch ar gyfer preswylwyr a staff, ynghyd ag atal unrhyw ledaeniad posibl o Covid-19. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i deuluoedd ac mae diogelu iechyd ein preswylwyr yn parhau yn brif flaenoriaeth i ni.
Gall pobl sy’n dymuno anfon anrhegion adael parseli ar gyfer preswylwyr mewn Cartrefi Gofal Preswyl yr Awdurdod Lleol yn y lleoliadau canlynol rhwng dydd Gwener 11.12.2020 a dydd Sadwrn 19.12.2020:
• Llyfrgell Aberystwyth– 10am-12pm & 1pm-4pm
• Llyfrgell Aberaeron – 10am-12pm & 1pm-4pm
• Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan – 10am-1pm & 2pm-4pm
• Llyfrgell Aberteifi – 10am-1pm & 2pm-4pm
• Neuadd Goffa Tregaron:
– Dydd Mawrth 15.12.2020 a dydd Iau 17.12.2020 – 2pm-4pm
– Dydd Llun 21.12.2020 – 4pm-6pm
Atgoffir pobl na ellir derbyn bwydydd wedi’u coginio gartref na blodau/planhigion. Cofiwch hefyd nodi enw’r preswylydd, enw’r cartref ac oddi wrth bwy y mae’r rhodd, ynghyd â rhif ffôn cyswllt, ar eich parsel.
Mae cartrefi gofal preswyl Awdurdod Lleol Cyngor Sir Ceredigion yn cynnwys: Tregerddan, Bowstreet; Bryntirion, Tregaron; Min y Môr, Aberaeron; Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan; ac Yr Hafod, Aberteifi.
Mae’r holl gymorth, cyngor a gwybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 01545 570881 neu anfonwch neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.