Hwb Lles cyntaf Ceredigion wedi ei gymeradwyo

Y nod yw cyfrannu at wella llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol trigolion y sir

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llanbedr Pont Steffan

Cafodd y cynnig i ddatblygu Hwb Lles yn Llanbedr Pont Steffan ei gymeradwyo yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ddoe (Rhagfyr 1).

Mae’r Cyngor Sir yn bwriadu sefydlu Hybiau Lles yng ngogledd, canol a de Ceredigion yn ogystal â darpariaeth ‘dros dro’ mewn lleoliadau eraill yn y sir.

Bydd pob Hwb Lles yn cynnal ‘Canolfan Les’ fydd yn darparu gwasanaethau hamdden gydag ardaloedd ar gyfer cyfarfod, ymgynghori a thriniaethau.

Y nod yw cyfrannu at wella llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol trigolion y sir.

“Anghenion trigolion o ran cymorth yn newid”

“Mae’n amlwg bod anghenion trigolion o ran cymorth yn newid,” meddai’r Cynghorydd Catherine Hughes.

“Mi fydd y Ganolfan Lles yn medru cynnig cymorth a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb i’r anghenion hyn a chynnig cefnogaeth amrywiol i ystod eang o bobl o bob oedran.

Mae’n braf gweld y cam cyntaf positif hwn i drigolion canolbarth Ceredigion.”

Caiff yr Hwb Lles yn Llanbedr Pont Steffan ei ddatblygu gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru.

Camau cyntaf

Bwriad y Cyngor yw datblygu Canolfannau Lles pellach yng ngogledd a de’r sir.

Bydd y dysgu trwy greu’r ganolfan gyntaf yn Llanbedr Pont Steffan yn dylanwadu ar y canolfannau eraill ac yn rhoi’r rhaglen ar waith yn y dyfodol.

Bydd y cysyniad o ddatblygiad y Ganolfan Les yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Prosiectau Corfforaethol a’r Grŵp Datblygu i sicrhau ei fod yn dilyn y protocolau a gafodd eu cytuno ar gyfer prosiect o’r statws hwn.

Wrth gymeradwyo’r cais, mae hyn yn caniatáu i’r Gwasanaethau Lles fwrw ymlaen â’r gwaith prosiect ar ddatblygu’r Ganolfan Les yn Llanbedr Pont Steffan.