Llofruddiaeth, dirgelwch a bochdew… drama CFfI Pontsiân!

Mae dramodwyr ac actorion CFfI Pontsian wedi cael cryn lwyddiant yn ddiweddar ar lefel genedlaethol

Endaf Griffiths
gan Endaf Griffiths

Mae CFfI Pontsiân wedi cael cryn lwyddiant yn ddiweddar wedi iddyn nhw ennill cystadleuaeth y Ddrama Gymraeg nid yn unig ar lefel Ceredigion, ond ar lefel Cymru hefyd.

Cynhaliwyd Gŵyl Adloniant CFfI Cymru yn y Galeri, Caernarfon y penwythnos diwethaf (Chwefror 29 + Mawrth 1), gyda chwe ffederasiwn yn cystadlu yn y gystadleuaeth Gymraeg.

Roedd CFfI Pontsiân yn perfformio’r ddrama gomedi ‘Oli’, a sgrifennwyd gan dri aelod o’r clwb, sef Carwyn Blayney, Cennydd Jones ac Endaf Griffiths, a rhoddwyd canmoliaeth uchel i’r tri am safon eu sgript gan y beirniad – yr actores a chyflwynwraig, Ffion Dafis. Llwyddodd Glesni Thomas i ennill gwobr yr Actores Orau ar lefel Ceredigion ac Endaf Griffiths yr Actor Gorau ar lefel Ceredigion a Chymru.

Y cynhyrchwyr oedd Gareth Lloyd, Einir Ryder, Mererid Jones a Lisa Mai. Adeiladwyr a chludwyr y set oedd Dion Evans, Geraint Blayney, Llyr Rees, Sion Jenkins a Meurig Evans.

Dyma fideo byr yn crynhoi taith CFfI Pontsiân i Gaernarfon…