Llywyddion newydd Undebau Myfyrwyr yn ddau ffrind

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Iwan a Moc yn yr Eisteddfod Ryng-gol. Llun gan Catrin Teleri.

Cynhaliwyd etholiadau undebau myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru yr wythnos ddiwethaf ac roedd nifer o bobl ifanc yr ardal hon yn ymgeiswyr.

Mae llywyddion newydd y ddwy Undeb Gymraeg yn ffrindiau agos o ardal Llanbed.

Llywydd newydd UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yw Iwan Evans o Flaencwrt.  Mae’n fyfyriwr y drydedd flwyddyn yn astudio Dylunio a Thechnoleg ac Addysg Uwchradd ym Mhrifysgol Bangor.  Enillodd yr etholiad ddydd Gwener o fewn 22 pleidlais.  Mae Iwan yn dilyn ôl traed cyn lywyddion UMCB eraill o’r ardal, pobl ifanc dylanwadol fel Gethin Morgan a Guto Gwilym.

Morgan Lewis (neu Moc) o Gwmann yw Llywydd newydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth).  Mae Moc yn fyfyriwr y drydedd flwyddyn hefyd ac yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Enillodd yr etholiad ddydd Gwener o fewn 51 pleidlais.

Bu Iwan a Moc yn gyd ddisgyblion blaengar yn Ysgol Bro Pedr ac yn gyd chwaraewyr yn Nhîm Rygbi Ieuenctid Llanbed.

Blwyddyn fawr i’r ddau felly gan arwain bywyd diwylliannol Cymraeg a lles myfyrwyr Cymraeg yn y ddwy brifysgol.  Pob lwc iddynt.

Cyn ddisgybl arall o Ysgol Bro Pedr a lwyddodd mewn etholiad ym Mhrifysgol Abertawe yw Alpha Evans o Gwmann.  Cafodd ei hethol fel Ysgrifennydd Cyffredinol i’r Undeb Myfyrwyr. Mae’n fyfyrwraig yr ail flwyddyn yn astudio Cymraeg.  Dymuniadau gorau iddi hi hefyd.