Marchnad Da Stôr mis Ebrill Llanybydder

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Heddiw cynhaliwyd Marchnad Da Stôr ym Mart Llanybydder gan gwmni Evans Bros o dan amgylchiadau tipyn yn wahanol i’r arfer.

Aeth 380 o dda drwy’r cylch gwerthu heddiw gyda’r perchnogion yn gadael eu gwartheg yn y mart a mynd adref, tra’r oedd dros 30 o brynwyr yn bresennol ac yn cadw pellter o ddau fedr oddi wrth ei gilydd.  Darlledwyd yr arwerthiant yn fyw ar facebook er mwyn i werthwyr gadw llygaid ar y prisau.

Cafwyd masnach da heddiw o ystyried bod pris bîff wedi cwympo ychydig.  Aeth y pris uchaf o ran y treisiedi i Ieuan Jones, Pwllybilwg ac o ran yr eidonau i John Williams, Blaenwaun, Talyllychau.

Gwelwyd llawer o dda ifanc ar y farchnad heddiw a masnach da iawn iddynt oherwydd amser y flwyddyn.

Dymuna cwmni Evans Bros ddiolch i bawb am gefnogi’r Mart heddiw eto ac am gadw at y mesurau llym. Y bwriad yw cynnal marchnad arall ym mis Mai a gofynnir i bawb gofrestru’n gynnar.