Marchnad Da Stôr mis Mai Llanybydder

Prisau uchel a phrynwyr newydd ym Mart Llanybydder.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Heddiw cynhaliwyd Marchnad Da Stôr lwyddiannus iawn ym Mart Llanybydder gan gwmni Evans Bros dan reolau cadw pellter cymdeithasol unwaith eto.

Cafwyd munud o dawelwch cyn dechrau gwerthu heddiw er parch i Oriel Jones, Lladd-dy Llanybydder gynt a fu farw’n ddiweddar.  Bu’n gefnogol iawn i Fart Llanybydder dros y blynyddoedd.

Aeth 400 o dda drwy’r cylch gwerthu heddiw gyda’r perchnogion yn gadael eu gwartheg yn y mart a mynd adref, tra’r oedd nifer dda o brynwyr yn bresennol ac yn cadw pellter o ddau fedr oddi wrth ei gilydd.  Braf croesawu prynwyr newydd unwaith eto gyda rhai wedi dod mor bell â Gwlad yr Haf a Swydd Efrog.  Darlledwyd yr arwerthiant yn fyw ar facebook er mwyn i werthwyr gadw llygaid ar y prisau.

Cafwyd masnach arbennig o dda heddiw gyda’r prisau yn cyrraedd ar gyfartaledd rhyw gant punt yn uwch na’r disgwyl.  Aeth y prisau uchaf o ran y treisiedi i Davies, Plasnewydd, Allwalis, yr eidonau i Bowen, Pwllglas, Llanllwni, buchod hesbion i Evans, Nantyboncath, Alltwalis ac o ran buwch a llo i Evans, Blaenffynnon, Bryngwyn.

Dymuna cwmni Evans Bros ddiolch i bawb am gefnogi’r Mart heddiw eto ac am gadw at y mesurau llym. Y bwriad yw cynnal marchnad arall ar y 13eg o Fehefin a gofynnir i bawb gofrestru’n gynnar.