Marchnad Da Stôr mis Mehefin Llanybydder

Gwelwyd hyder yn y farchnad a chafwyd masnachu rhyfeddol o dda.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Prysurdeb Llanybydder ar ddiwrmod Mart Da Stôr. Llun gan Gary Jones.

Heddiw cynhaliwyd Marchnad Da Stôr lwyddiannus iawn ym Mart Llanybydder gan gwmni Evans Bros gan barhau â rheolau cadw pellter cymdeithasol unwaith eto.

Gwelwyd hyder yn y farchnad a chafwyd masnachu rhyfeddol o dda. Aeth 500 o dda drwy’r cylch gwerthu heddiw gyda’r perchnogion yn gadael eu gwartheg yn y mart a mynd adref, tra’r oedd nifer dda o brynwyr yn bresennol ac yn cadw pellter o ddau fedr oddi wrth ei gilydd.

Braf croesawu prynwyr a gwerthwyr newydd unwaith eto. Darlledwyd yr arwerthiant yn fyw ar facebook er mwyn i werthwyr gadw llygaid ar y prisau.

Aeth y prisau uchaf o ran y eidonau i Bellamy, Hendy, Rhyddlan, y treisiedi i Floyd a Phartneriaid, Felin Llwyn Ywen, Pennant, buchod hesbion i Alun Evans, Penbryn, Cribyn, tarw i Sion Jenkins, Hafan y Cwm, Cwmsychbant ac o ran buwch a llo i Llyr Griffiths, Cefnrhyddlan Isaf, Llanwenog.

Dymuna cwmni Evans Bros ddiolch i bawb am gefnogi’r Mart heddiw eto ac am gadw at y mesurau llym.

Cynheir Mart Lloi ar yr 22ain o Fehefin, y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn Llanybydder ers dros ugain mlynedd, ac mae llawer o brynwyr wedi dangos diddordeb. Bydd gwobrau ar gyfer y prisau uchaf hefyd.

Ar y 10fed o Orffennaf bydd marchnad arbennig o 30 o dda sugno a lloi drwy garedigrwydd Mrs Ray Jenkins, Beiligwyn.

Bydd marchnad da stôr ar y diwrnod canlynol sef yr 11eg o Orffennaf a gofynnir i bawb gofrestru’n gynnar.