Mae bwyta cynnyrch lleol yn golygu cynnydd ym mhrisau’r Mart

Adroddiad Ffair Fartin Mart Llanybydder.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd 500 o dda stôr o ffermydd lleol yn Ffair Fartin Mart Llanybydder ddydd Sadwrn.  Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf a’r cyfan yn gwerthu am brisau da.

Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,450 o eiddo Bowen, Pwllglas, New Inn a’r aneri gorau am £1,450 o eiddo Davies, Croesmaen, Llanfihangel a Williams, Cwmhwplyn, Pencader.  Gwerthwyd y fuwch orau am £1,090 o eiddo Harries, Meillionen, Llanddeiniol.  Gwerthwyd y fuwch a llo gorau am £1,500 o eiddo Williams, Cwmhwplyn, Pencader.

Dywedodd Mark Evans yr arwerthwr “Roedd pawb wedi mynd adref yn hapus heddiw.  Mae bwyta cynnyrch lleol tra bod pawb yn aros gatref yn golygu cynnydd ym mhrisau’r Mart.  Mae hynny o fantais i bawb.”

Ychwanegodd Mark Evans “Hoffem ddiolch i’r ffermwyr a’r prynwyr i gyd am ein cefnogi heddiw a thrwy’r flwyddyn.  Mae’n rhyfedd meddwl bod bron 6,000 o dda wedi bod trwy’r mart yn y 12 mis diwethaf sydd yn arbennig chwarae teg.”

Cynhelir y Mart Nadolig ar y 12fed Rhagfyr gyda gwobrau arbennig i aelodau’r Ffermwyr Ifanc.  Mae llawer wedi cofrestru’n barod a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.