Masnachu fel barbwr yn Llanbed am 50 mlynedd

“Maen nhw fel teulu” meddai Alan Barbwr am ei gwsmeriaid ffyddlon

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i Alan Williams am fasnachu fel barbwr yn Llanbed am 50 mlynedd. Mae ei siop farbwr a’i siop bysgota wedi bod yn adnabyddus yn yr ardal ers degawdau ac mae’n un o fusnesau unigryw Llanbed.

Dywed mai’r prif beth sydd wedi newid dros yr hanner can mlynedd yw’r amser sydd gan bobl i siarad. Pan ddechreuodd fasnachu yn 34 Stryd y Bont ym mis Mehefin 1970 roedd siop y barbwr yn ganolfan ar gyfer seiatau lu.

Yn yr un cyfnod roedd Idris yn farbwr ar y Sgwâr a Jack Oliver yn farbwr yn Heol y Porthmyn. Roedd Wyn Barbwr wedi dechrau hefyd chwe mis cyn hynny yn Stryd y Farchnad.  “Ond erbyn heddi mae pawb yn gaeth i’w clociau, a sdim amser i siarad fel yn yr hen ddyddie.” meddai Alan.

Mae e wedi gweld sawl ffasiwn yn mynd a dod “O wallt hir i wallt byr, nôl i wallt hir hir a gwallt byr iawn.”

Ei ddymuniad gwreiddiol oedd ymuno â’r heddlu, ond roedd yn rhy hen i ymuno â’r cadlanciau ac yn rhy ifanc i ymuno â’r llu. Felly aeth i hyfforddi fel barbwr ar gwrs trin gwallt dynion a menywod ym Mae Colwyn am ddwy flynedd a gweithio yn siop yr hyfforddwr yn y dref am flwyddyn cyn dychwelyd i Lanbed.

Pris torri gwallt ar y dechrau oedd tri swllt a chwe cheiniog, a chofia mai Cynfil Williams (Tad Enfys Siop Ddillad) oedd ei gwsmer cyntaf a’r Parchedig Trevor Lloyd ei weinidog oedd yr ail. A do, dychwelodd y ddau i dorri eu gwallt gydag Alan fel cwsmeriaid ffyddlon dros y blynyddoedd.

Cofia Alan dorri gwallt plismon un bore Sadwrn, a’i ringyll yn galw ar frys yn dweud bod yn rhaid iddynt fynd ar alwad i ddala lleidr mewn tŷ. Golygfa rhyfedd oedd gweld yr un plismon ar ddyletswydd mewn dawns yn Llanbed gyda hanner haircut!

Daw cwsmeriaid Alan o bell ac agos gydag un cwsmer presennol yn teithio bob cam o Aberystwyth. Daw gweithwyr o’r de sy’n cludo nwyddau, mewn i’r siop er mwyn torri gwallt yn ogystal â thwristiaid, ac Alan yn cofio pob un. “Rwy’n nabod wynebau’n dda” dywedodd.

A beth yw’r gyfrinach i fod yn farbwr llwyddiannus? Pam fod cwsmeriaid yn dychwelyd ato dro ar ôl tro i dorri gwallt? “Y gyfrinach yw gwrando ar beth maen nhw mo’yn” meddai Alan. Gall restru sawl teulu â phedair cenhedlaeth yn mynd ato i dorri gwallt.

Bwriada ddychwelyd i’w siop yn 57 Stryd y Bont pan rhyddheir y cyfyngiadau presennol. Does dim unrhyw fwriad ganddo roi’r siswrn yn ei boced eto. “Rhaid mynd nôl” meddai “Maen nhw fel rhan o’r teulu. Wi’n methu gwrthod galwad i dorri gwallt. Mae’n ffordd o fyw.”

Gobeithio y bydd yn gallu parhau am flynyddoedd eto, ac mae’n wych gweld y traddodiad busnes teuluol yn parhau gyda’i ferch a’i fab yng nghyfraith yn rhedeg Y Stiwdio Brint yn Llanbed hefyd.