Bu’n flwyddyn ddistaw i’r Côr eleni. Dim ymarferion ers mis Mawrth ac fel arfer byddai’r Côr wedi diddanu yn y Noson Mefus a Hufen, Ffair Nadolig y Brifysgol, Noson Siopa Hwyr Llanbed ac mewn sawl cartref henoed yn Rhagfyr.
Mi wnaethom hefyd golli’r cymdeithasu ar nosweithiau Mercher ond diolch byth am y ffôn, e-bost a medru codi llaw o hirbell i gadw mewn cysylltiad. Bu’r misoedd diwethaf yn gymysg o’r llon a’r lleddf. Dathlodd ambell un benblwydd arbennig a chwith oedd methu canu penblwydd hapus iddynt ar nosweithiau Mercher. Llwyddwyd i gyfarch un o’n haelodau mwyaf gweithgar trwy gyfrwng Zoom ac yntau’n dathlu ei bedwar ugain! Dioddefodd eraill anhwylderau iechyd a thristawyd yr aelodau pan gollwyd Bryan Davies yn frawychus o sydyn. Byddwn yn colli ei lais tenor cyfoethog, ei gwmni, ei hiwmor a’i gyfraniad clodwiw yn Llyfrgellydd y Côr.
Trefnwyd cwis ar hanes y Côr gan Rhys Bebb Jones yn yr Hydref. Cafwyd hwyl yn ateb y cwestiynau ac er bod sawl ymgais bron a chyrraedd y brig, un aelod atebodd y cyfan yn gywir. Llongyfarchiadau i Alun Williams, Llywydd y Côr. Felly darllenwyr CLONC360, dyma ddetholiad o’r cwestiynau i chi weld faint ’rydych yn ei wybod am y Côr. Cewch y cwestiynau eraill yn rhifyn Rhagfyr o CLONC – cofiwch brynu copi a mwynhewch y cwis!
Pwy yw pwy?
Pwy ddaeth yn Gadeirydd yn 1982?
Cafodd y côr dri Arweinydd – pwy ydynt?
Ymweliadau – pa flwyddyn?
Taith gyntaf y côr i Lydaw?
Ymweld â Gŵyl Carafan Toronto, Canada?
Pwy yw’r aelod?
Brodor o Ffarmers a fu’n byw yn Rhuthun ac yn gweithio yn Leeds.
Magwyd yn Dowlais Top a bu’n byw yn Lemington Spa.