Merched Llambed yn ‘Cerdded Cymru’

Cyfanswm o 500 milltir er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Gwawr Bowen
gan Gwawr Bowen

Rydym fel criw o ffrindiau (ac ambell riant) wedi penderfynu gwisgo ein hesgidiau cerdded a chymryd rhan yn y sialens ‘Cerdded Cymru’ gydag Ambiwlans Awyr Cymru.

Nod yr her yw cerdded pellter cyfatebol gwahanol deithiau cerdded harddaf Gymru. Roedd 4 opsiwn pellter ar gael i ddewis, y byrraf yn 9 o filltiroedd gyda’r hiraf yn 52 o filltiroedd. Mae pob un ohonom wedi dewis yr her o 52 o filltiroedd neu 105,000 o gamau sydd yn cyfateb i gerdded o Y Gelli Gandryll (Hay on Wye) i gastell Powys.

Bwriad y sialens yw cerdded y pellter yma rhwng yr 20fed o Ebrill a 21ain o Fai. Wrth i bawb cerdded y pellter yma mi fyddwn rhyngom yn cwblhau cyfanswm o 500 milltir sydd yn dipyn o bellter.

Y rheswm dros benderfynu cymryd rhan oedd ceisio chwarae rhan fach bositif yn yr amser anodd yma. Gyda phopeth sydd yn mynd ymlaen mae’r Ambiwlans Awyr dal i weithio’n ddiflino i helpu pobl ar hyd a lled y wlad trwy wneud gwaith hanfodol ac amhrisiadwy. Er hynny maent wedi gweld gostyngiad sylweddol yn yr arian sydd yn cael eu codi gan fod digwyddiadau codi arian eraill yr elusen wedi dod i stop ac mae eu siopau wedi gorfod cau.

Trwy gwblhau’r her yma mi fyddwn yn gallu gwneud rhywbeth bach i helpu’r elusen ond hefyd mi fyddwn yn cynnal ein llesiant corfforol a meddyliol ni ein hun sydd yn hynod bwysig yn ystod yr amser heriol yma.

Mi fyddwn yn gwneud y cerdded o dan ganllawiau’r llywodraeth trwy gymryd rhan yn ein hymarfer corff dyddiol. Bydd rhai ohonom yn cerdded ar ben ein hun, rhai gyda’u teuluoedd a dwi’n siŵr mi fydd ambell gi yn cael sawl wâc yn ystod y mis nesaf. Felly os welwch chi ni o gwmpas yr ardal cofiwch chwifio a dweud helo o bellter wrth gwrs!

Yn amlwg pwrpas yr her yma yw codi gymaint o arian â phosib ar gyfer yr elusen felly os oes gennych gwpwl o bunnoedd i sbario mi fyddwn ni gyd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn. Mae’n bosib rhoi cyfraniad trwy’r dudalen Just Giving.