Nadolig lliwgar Llanbed!

Nawr bod y Coed Nadolig uwchben y siopau hefyd, mae’r dref yn edrych yn ddeniadol.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Dewch i Lanbed i weld yr addurniadau sy’n harddu’r dref. Mae’r goleuadau mawr yn eu lle a choeden sylweddol yng nghanol Sgwâr Harford.

Ar nos Wener wlyb ac oer gosodwyd coed a goleuadau ar nifer o siopau’r dref. Maer Llanbed, y Cynghorydd Selwyn Walters, drefnodd hyn eleni gyda chymorth Siambr Fasnach Llanbed. Canolfan Arddio Robert’s, y Cynghorydd Rhys Bebb Jones a Lee Drury, Cadeirydd Ford Gron Llanbed, gasglodd yr archebion.

Derbyniwyd rhodd anrhydeddus trwy gangen Llanbed o’r Principality at brynu coed a goleuadau ychwanegol. Paul o Gwasanaethau Coed Llanbed gyda chymorth Alan o J&E Woodworks, Rob o Ganolfan Arddio Robert’s a Rhys Bebb Jones osododd y coed yn y bracedi. Mae’r dref yn edrych yn ddeniadol i’ch croesawu i fwynhau’r goleuadau ac i orffen eich siopa Nadolig.

Diolch yn fawr am gefnogi tref Llanbed. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.