Os ’neud job, ’neud e’n iawn – Cyfrinachau Delyth Tangraig

Person anturus, uchelgeisiol a thawel o Silian sy’n ateb cwestiynau Papur Bro Clonc y mis hwn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn Eisteddfod T a gynhaliwyd gan yr Urdd eleni, fe gipiodd Delyth Evans o Silian yr ail wobr yng Nghystadleuaeth y Fedal Ddrama.  Yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc, cyhoeddir ei monolog llwyddiannus yn ogystal a nifer o gyfrinachau gan taw Delyth sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ y mis hwn.

Y peth pwysicaf a ddysgodd Delyth yn blentyn oedd “Os ’neud job, ’neud e’n iawn”.  Ac mae hynny’n dangos ym mhopeth mae hi’n ei wneud.  Ei swydd o ddydd i ddydd yn Cydlynydd Marchnata a Digwyddiadau Cyswllt Ffermio.

Yn rhifyn cyfredol Clonc mae’n ateb llawer o gwestiynau fel “Pa ddeddf yr hoffai weld y Cynulliad yn ei phasio?”  Gyda phwy yr hoffai fod yn sownd gyda ar ynys anghysbell?”  “Pa bwerau arbennig yr hoffai feddu arnynt?”

Petai Delyth yn cael bod yn anifail byddai’n dewis bod yn aderyn er mwyn gallu dianc i unrhyw le unrhyw bryd a theithio mewn amser fyddai hi’n dewis fel pwer arbennig.

Cofiwch lawrlwytho copi o rifyn Gorffennaf Clonc am ddim nawr o wefan y papur er mwyn darllen mwy amdani.