Newyddion da o lawenydd mawr

Tro pedol ynglyn â goleuadau Nadolig Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bore ma, bu gwirfoddolwyr o blith Siambr Fasnach Llanbed yn codi goleuadau Nadolig yn strydoedd y dref, er i adroddiad ymddangos ar wefan Clonc360 na fyddai goleuadau Nadolig eleni oherwydd cyfyngiadau’r Coronafeirws ar y gwirfoddolwyr.

Ond oriau man y bore ma, bu rhyw ddwsin o wirfoddolwyr yn gweithio’n ddiwyd yn Llanbed gan rhoi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim a chadw at reolau iechyd a diogelwch yn ogystal â rheolau cyfyngiadau Coronafeirws.

Gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud y gwaith blynyddol hwn yn Llanbed ers blynyddoedd gan alw eu hunain yn ‘Bois y Codiad’.  Erbyn diwedd y bore roedd pob addurn a bylb yn eu lle.

Daw hyn ag ychydig o lawenydd i siopwyr Llanbed gan roi naws y Nadolig unwaith eto a hynny ar ddiwedd blwyddyn anodd.  Diolch i bawb a fu’r gweithio a chynorthwyo.