35 car yn nigwyddiad ‘Carolau yn eich Car’

Carolau a darlleniadau yn codi calon ac yn ddechrau da i’r paratoadau at y Nadolig.

Ann Bowen Morgan
gan Ann Bowen Morgan

Llun gan Rob Phillips.

Dyna braf oedd cael ymuno yn y noson ‘Carolau yn eich car’ ar glos Gwili Tractors ar nos Iau, 10fed Rhagfyr. Digwyddiad cyntaf o’i fath yn Llanbed.

Roedd hi’n noson lawog o ran tywydd ond roedd y carolau a’r darlleniadau yn codi calon ac yn ddechrau da i’n paratoadau at y Nadolig.

Dywedodd Linda, un o’r trefnwyr “Cawsom noson fendigedig.  Roeddem wedi ein calonogi gan yr ymateb o bob rhan o’r gymuned.”

”Mynegodd llawer o bobl eu gwerthfawrogiad am allu bod yn rhan o Ddathliad Nadolig mewn amgylchedd diogel, yn eu swigen eu hunain, yn enwedig y rhai hŷn yn ein plith.”

Ychwanegodd Linda “Ar adeg o ansicrwydd roedd mor dda rhannu neges o obaith a chreu gwir ysbryd y Nadolig i’r rhai a ddaeth ynghyd i ddathlu genedigaeth Crist. Gobeithio y bydd trefi eraill yn dilyn arweiniad pobl Llanbed.”

Cafwyd cyd ddathlu gyda chyfeillion mewn tua 35 o geir ac arweiniwyd y dathliadau yn gwbl ddwyieithog.  Cafwyd darlleniadau gan arweinwyr ein heglwysi sef Mr Gareth Jones, Parchg Densil Morgan, Parchg Marc Rowlands, Parchg David Patterson a chafwyd anerchiad cwbl addas a dyrchafol gan y Parch Stuart Bell.

Cawsom ganu nifer o garolau i gyfeiliant cerddoriaeth hyfryd a’r sain wedi’i drefnu gan Stuart Northern. Diolch i Linda a Richard Burgess am eu trefniadau ac i Sian a Nigel o Gwili Tractors am ddefnydd o’u tir a’u cymorth. Hefyd i’r stiwardiaid dewr yn arwain y gyrrwyr i’w lleoeodd priodol. Yn olaf diolch i’r Cyngor Tref a’r Siambr Fasnach am noddi noson lwyddiannus. Nadolig Llawen i bawb!