Papur Bro Clonc digidol yn unig am y tro cyntaf

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Heddiw cyhoeddir rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc ond oherwydd mesurau caeth y Coronafeirws, rhifyn digidol yn unig yw hwn sy’n rhad ac am ddim ar wefan Clonc.

Teimla swyddogion Clonc fod cyhoeddi Papur Bro Clonc cyn bwysiced yn y cyfnod anodd hwn nag erioed o’r blaen. Gobeithiant y gall Clonc leddfu ychydig ar y profiad o hunan ynysu rhag yr haint.  Ond oherwydd y perygl o ledu’r haint ni ellir gofyn i wirfoddolwyr gynorthwyo gyda’r plygu na’r dosbarthu yn ystod y misoedd hyn.

Felly dyma gyhoeddi rhifynnau PDF digidol yn unig. Gellir darllen y rhifynnau nesaf ar eich ffôn / llechen / cyfrifiadur wrth eu lawrlwytho oddi ar wefan Clonc.  Byddant ar gael ar ddydd Iau cyntaf bob mis, ac o bosib cyn hynny gan na fydd angen amser i’w hargraffau, eu plygu na’u dosbarthu.

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n mwynhau darllen Clonc bob mis ond nad ydyn nhw’n defnyddio’r we, ac felly ni fyddan nhw’n gallu darllen rhifyn mis Ebrill?  Beth am argraffu copi iddyn nhw, a’i ddosbarthu (gan ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol)?

Gofynnir i chi argraffu copïau ar gyfer eraill sydd heb offer digidol.  Ni fyddant ar werth mewn siopau lleol i’w prynu tan i ni gael ein rhyddhau o gyfyngiadau’r haint.

Gwerthawrogir gwaith Delyth Morgans Phillips y golygydd a Nia Wyn Davies a fu’n dylunio tra’n ynysu dros yr wythnos ddiwethaf.

Cofiwch rannu’r neges gan ddweud wrth bawb am y trefniadau hyn.

Mae’n bosib y bydd llai o newyddion yn rhifyn mis Mai gan na chynhelir digwyddiadau’n lleol.  Felly gwnewch yn siwr eich bod yn danfon cyhoeddiadau, cyfarchion a lluniau at y golygydd yn y drefn arferol fel y gellir eu cyhoeddi.